Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/321

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddo iddo ysgrifenu y llinellau hyny, ac yn dymuno ar iddynt gael eu croesi allan o'r llyfryn. Oddiar y gonestrwydd hwn oedd yn ei nodweddu, y mae yn teimlo yn ddirfawr yn erbyn pob peth a ymddangosai iddo ef yn groes iddo: ac y mae yn y llyfr hwn yn ymollwng, rai prydiau, yn ormodol gyda'i deimladau, ac yn taro yn sicr yn rhy drwm. Wedi sylwi ar gynghor a roddasai Mr. Davies iddo, i "gofio bob amser fod y GWIR mor sanctaidd, fel na ddylid ei dreisio er dim," efe a ddywed, "Yr Arglwydd a'm cadwo byth yn llwybr y cynghor hwn, a rhag llwybrau y neb a'i cynghorodd" (Rhagymadrodd, tu dal. vii.). Eto: "Mae hyn yn beth go ryfedd: eto na ryfedded neb mo'r llawer, gan fod yn ddigon eglur mai Mr. D. a'i dywedodd " (tu dal. 40). Drachefn: "Dyma blastr llyfn a helaeth: ond y drwg yw ei fod yn wenwyn digymmysg, neu yn anwiredd mawr a chyflawn, ac yn enllib o'r fath hyllaf, o ran swm yr adroddiad mae'n ei gynnwys; sef, Ein Diwygwyr o unfryd wedi bwrw y Catecism hun allan o'r Eglwys!—Am ei gau athrawiaethau, a'i gas anwireddau rhy echryslon, yn wir fe weddai i bob Eglwys yn un fryd ei roddi ef allan, hyd onid edifarhao" (tu dal. 62). Eto: "Mi ddymunwn eto obeithio y cywilyddia ac y cryna Mr. O. Davies rhag cytuno â Satan, a'r Pabydd Weston, a'i holl frodyr Rhufeinig, gau brophwydi Anghrist, yn erbyn Cranmer, Ridley, a'r lleill o'r Merthon Protestanaidd" (tu dal. 67). Unwaith eto: "Wrth hyn (pe na b'ai genyf ddim ychwaneg i'w ddangos) fe all pawb weled pa le mae'r anwiredd yn gorwedd. Ac a fydd yn ormod i minnau yma dalu ychydig o'm dyled anferth i Mr. D. wrth ofyn, Onid yw yn rhyfedd dros ben, fod wyneb mor galed a choryn mor feddal, dichell mor gref a phwyll mor wan, cyfrwysdra mor fawr a synwyr mor fychan, ymddangosiad mor fwynaidd ac ymadroddiad mor fustlaidd, gwefusau mor lân a thafod mor fudr, rhith mor eirwir ac iaith mor anwir, oll wedi ymgyfarfod, fel y maent, yn mhen yr un dyn " (tu dal. 92, 93)? Y mae yn hawdd gweled nad oedd dim diffyg gallu tafodi ar Mr. Jones pan y cynhyrfid ef i hyny. Yr oedd Mr. Davies yn ei Ragymadrodd i'w "Ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread" yn ymesgusodi oblegyd rhai ymadroddion a ddefnyddiasid ganddo ef, a allent ymddangos i rai yn lled eirwon, a'r gobaith y byddai "i Mr. Jones deimlo o'r achos cyn belled ag i gael ei ddwyn i weled yr anghyfaddasrwydd o drin y Wesleyaid gyda'r fath chwerwedd ysbryd." Ond druan o hono! yn tybied y gallai efe felly roddi ei arswyd ar y fath un a Mr. Jones. Yn niwedd