Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/322

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y llyfr, y mae Mr. Jones yn rhoddi 42 o ofyniadau i Mr. Davies, ac yn addaw talu CAN' PUNT iddo, os profai ei onestrwydd a'i eirwiredd yn wyneb y tri olaf, a'i eirwiredd "yn ngwyneb dim ond un o bob tri o'r gofyniadau ereill." Yr oedd yn addef fod y fath gynnyg, mewn dadl grefyddol, yn un anarferol; ond yr oedd yn ystyried fod ysbryd ei wrthwynebwr yn gyfryw ag i beri nad ydoedd y cynnygiad, yn yr amgylchiad hwn, yn anweddaidd i achos crefydd a gwirionedd.

Nid yn fuan iawn, ni a dybygem, er nas gwyddom yn mhen pa faint o amser, oblegyd nad oes un dyddiad wrtho, fe gyhoeddwyd atebiad i'r llyfr hwn," Sylwiadau ar Lyfryn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan MR. THOMAS JONES, gynt o Ruthin. Yn y Sylwiadau hyn y mae Anwireddau yn cael eu Dynoethi, a'r Gwirionedd ei Amddiffyn. Gan OWEN DAVIES. Caerfyrddin: Argraphwyd gan J. Daniel, Heol y Farchnad." Y mae hwn yn gyfansoddiad llawn difriaeth, hollol annheilwng i'r sefyllfa urddasol a phwysig yr oedd yr awdwr, dros ei Gyfundeb, ar y pryd ynddi, ac i'r testynau dyrchafedig y cyfeirir yn achlysurol atynt, ond prin y gellir dywedyd eu bod yma dan sylw. Nid oes yma arddangosiad o un amcan i Ateb llyfr Mr. Jones, oddieithr trwy haeriadau anturus a phen—agored, heb brin rith o ymgais i ddwyn un prawf drostynt. Yr oedd Mr. Jones, yn dra theg, mewn "Gair byr i Mr. Owen Davies," ar ol ei Ragymadrodd i'w lyfr diweddaf, wedi dywedyd y dylasai, "yn y profion a ddygid ganddo rhagllaw, megis allan o lyfrau rhai ereill, roi dangosiad, am y llyfr, a'r ddalen, neu y bennod, &c., lle y byddai y cyfryw eiriau i'w cael, ac addefiad, os gan awdwr arall y cafodd efe hwynt." Ac y mae yn sicr, pe buasai Mr. Davies wedi cadw at y cyfryw reol o'r dechreuad, y buasai yn ymattal oddiwrth wneyd rhai haeriadau disail a wnaed ganddo yn ddifloesgni. Ond, hyd yn nod yn awr, ac wedi ei rybuddio fel y gwnaed, y mae yn ddigrifol sylwi ar y dull anmhenderfynol yn mha un y cyfeiria at yr awdwyr a ddefnyddir ganddo fel awdurdod. Er esiampl: yr oedd Mr. Davies yn ei lyfr cyntaf (Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, tu dal. 42.) wedi proffesu dyfynu o lythyr Ignatius,—er gwrthbrofi y defnydd a wnaethai Mr. Jones o'r tad hwnw yn y "Drych Athrawiaethol,"—i'r perwyl a ganlyn: "Pan ysgrifenodd Ignatius at Polycarp, efe a ddywedodd, 'Na fydded i neb o honoch adael eich proffes (colours): bydded eich bedydd eich arfog, bydded ffydd eich helm, cariad eich gwaywffon, amynedd eich holl arfogaeth, a'ch gweithredoedd eich cadwraeth, fel