y derbynioch wobr teilwng: pan orphenoch y gorchwyl yma, y gwaith a gaiff ei gyfrif i Dduw ac i chwithau.' Pa beth fuasech chwi yn ei ddywedyd am Mr. Wesley, pe dywedasai efe fel hyn?" Mae Mr. Jones wedi sylwi ar y dyfyniad hwn fel y canlyn ("Ymddiddanion rhwng Ystyriol a Hyffordd—Attodiad," tu dal. 420, 421): "Mi a nodaf yn enwedigol ar y geiriau a gawn ganddo (tu dal. 42) fel eiddo Ignatius: Mae y merthyr enwog hwn, ar ei ffordd i Rufain (lle'r oedd wedi ei orchymyn gan Trajan, i'w fwrw i'r llewod) yn taer-annog Polycarp, a'r Eglwys yn Smyrna i wyliadwriaeth a phob ymdrechiad duwiol. Medd efe, Na chaffed neb o honoch yn enciliwr (deserter) ond arosed eich bedydd fel arfau genych; eich ffydd fel eich helm; eich cariad, fel gwaew-ffon; eich amynedd fel eich llawn arfogaeth. Bydded eich gweithredoedd dan eich gofal cadwriaethol, fel y derbynioch wobr addas. Byddwch hir-ymarhöus tuag at eich gilydd, mewn addfwynder, fel y mae Duw tuag atoch chwi. Caffwyf lawenydd ynoch yn mhob peth.'—Dyma ddiwedd y dosparth: Dosp. 6. Yn y dosparth nesaf, mae yn eu hannog i ddewis aelod o'r Eglwys yn Smyrna, i fyned yn gennad trostynt at Eglwys Antiochia (yr hon yr oedd Ignatius wedi ei newydd adael, yn amddifad, ac mewn galar mawr) fel y gallai'r ddwy eglwys, er eu pellder mawr, gael felly gymdeithas gydymgysurol, ac adeiladol i'w gilydd. Am hyn o lafur ffyddlon a charedig, medd efe, yn agos i ddiwedd y dosparth; Y gorchwyl hun, mae'n eiddo Duw, ac yn eiddoch chwithau hefyd, pan fyddoch wedi ei orphen.' Felly, wrth edrych ar yr ymadroddion hyn, wedi eu symmud, eu newid, eu gŵyrdroi yn eu hystyr, a'u traws—glytio, fel y maent gan Mr. D. nis gallaf lai na dywedyd, mae lle i ofni ei fod yn rhydd i arferyd twyll o'r fath wrthunâf a duaf: Mi a ddymunwn iddo gael calon i gydnabod ei fai yn syml, a pheidio dadleu mwyach, tra byddo yn y byd, fel pe b'ai yn lân oddiwrth y bod o bechod! tu dal. 30, llin. 1, 2.)" Yr holl ateb a wnaeth Mr. Owen Davies i'r achwyniad trwm hwn, a'i holl amddiffyn iddo ei hunan, oedd,—"Am y Sylwadau a wnewch ar Clement ac Ignatius, nid ydynt yn werth gwneuthur sylw arnynt" ("Ail Lythyr at Mr. Thos. Jones," yn niwedd yr " Ymddidddanion rhwng Hyffordd a Beread," tu dal. 360). Eithr yr oedd Mr. Jones yn gweled ei fod ganddo dan ei ddyrnau, ac felly nid oedd am ei ollwng yn rhydd mor rwydd; ond y mae yn penderfynu ei wasgu i ryw gyfaddefiad neu i wneuthur rhyw well amddiffyniad iddo ei hunan; ac yn ganlynol y mae ("Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies, &c.," tu dal. 116, 117,
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/323
Prawfddarllenwyd y dudalen hon