Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/324

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

118,) yn dychwelyd ato drachefn:—"Yr wyf etto yn crybwyll wrtho (gan iddo fyned heibio i'm crybwylliad cyntaf yn y modd yr aeth) am y geiriau sy ganddo yn lle prawf—nodiad allan o waith Ignatius, yn tu dal. 42, o'i lythyr cyntaf ataf: A fedr efe ddangos nad oes yn ei eiriau hyny ddim a haeddai ei alw yn brawf-nodiad ffugiedig, forged quotation? . . . . Fe wyr yn ei gydwybod fod yma beth y dylasai efe wneuthur sylw neillduol o hono. Mae yma dwyll mor amlwg ac anferth (pe b'ai heb achos sôn am lawer o bethau Hed gyffelyb) fel ag y bydd i Dduw'r gwirionedd yn sier ei gyfrif iddo, hyd nes edifarhão: oblegyd mae'n profi fod dichell yn ei yspryd. Ac fe ddylai gael ei gyfrif, gan bob corph o bobl sy'n proffesu moesau da, yn achos o gerydd eglwysig, ïe, o esgymmundod arno.—Mae syrthio i gamgymmeriadau yn wendid ac yn fai y mae pob dyn mewn cnawd yn agored iddo ar rai amserau o leiaf: ond mae bwriad twyllgar yn beth tra arswydus. Ac a oedd yn bosibl i Mr. D. fedru 'sgrifenu y geiriau yr wyf yma wedi eu harddangos (heblaw ereill, lled gyffelyb) heb fod mewn bwriad i dwyllo?" Yr ydym yn mhell oddiwrth gyfiawnhau Mr. Jones am ddefnyddio iaith mor galed, ac am farnu mor benderfynol yn nghylch amcan Mr. Davies, yn y dyfyniad a wnelsid ganddo. Fe ddylasai gofio y modd yr oedd efe ei hunan cyn hyn wedi cael ei gam—arwain, gan lyfr argraffedig, i gyhuddo Mr. Wesley, a hyny yn gwbl ddisail, o ŵyrdroi un o adnodau y Bibl, ac i awgrymu nad yr amcan goreu a allai fod ganddo mewn golwg yn hyny. Buasai ychydig fwy o gariad yn peri iddo fod yn llawer mwy cymmedrol, a chymmeryd o leiaf yn ganiatâol, fel peth posibl, fod Mr. Davies yn awr wedi cael ei dwyllo neu ei gamarwain, gan ryw lyfr neu gilydd, megis ag y twyllasid yntau gynt. Ond yr oedd efe yn barnu Mr. Davies fel pe buasai yn ysgolhaig da, manwl, fel efe ei hunan; ac, felly, fel un yn arfer edrych i mewn yn ofalus i'r profion a ddefnyddid ganddo dros yr amrywiol haeriadau a wnai: tra nad oedd yntau ond un hollol wahanol—heb fod ond ysgolhaig bychan iawn; ac yn un hynod o ddiofal ac esgeulus, ac ar yr un pryd yn un mor anturus, fel nad oedd braidd yn gwybod pa beth oedd ofni dywedyd dim. Ond, at hyny yr oeddem yn cyfeirio; wedi ei ddal fel hyn, pa fodd y mae yn ceisio ymryddhau? Pa amddiffyniad a wneir ganddo iddo ei hun? Ac yma ni a gawn engraifft dra nodweddiadol o'i feddwl. Nid ydym yn gwybod am odid ddim cyffelyb iddi yn holl hanes dadleuon yr oes-