Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/325

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd :—" Yn ei ofyniad 41, y mae yn fy nghyhuddo i yn euog o brawfnodiad ffugiedig (forged quotation), ond Mr. Jones a all gael ei argyhoeddi trwy ddarllen llyfr a elwir, "A prospect of primitive Christianity, as it was left by Christ and his Apostles, by Thomas Elborawe, Vicar of Chiswick" ("Sylwiadau," &c., tu dal, 22, 23). Fel hyn, er amddiffyniad iddo ei hunan yn wyneb y cyhuddiad pwysicaf braidd a allasid. ddwyn yn ei erbyn fel awdwr, y mae yn cyfeirio at ryw lyfryn, gan ysgrifenydd distadl ac anadnabyddus; nad yw yn cael crybwyll am dano gymaint ag unwaith gan Darling, nac Allibone, na Lowndes ; heb enwi na thu dalen, na phennod, nac hyd yn nod awgrymu i ni pa bryd neu yn mha le yr argraffesid y llyfr y proffesai ddyfynu o hono; a'r hyn sydd braidd yn waeth, heb un datganiad o ofid o'i fod wedi ei gamarwain i ŵyro tystiolaeth awdwr mor adnabyddus i'r byd dysgedig ag Ignatius, ac awdwr a allasai fod, ac a ddylasai fod, trwy ryw gyfieithiad neu arall, yn gwbl adnabyddus iddo yntau!

Yn mhen ychydig amser wedi cyhoeddiad y "Sylwiadau," fe ddaeth Mr. Jones âg Atebiad byr iddynt allan o'r Wasg. Bu hwnw yn ein meddiant flynyddoedd yn ol; ond, er llawer o ymdrech, yr ydym wedi methu cael gafael arno yn awr o un man, fel ag i'n galluogi i gyfeirio yn fanylach ato. Yn ol y côf sydd genym am dano, nid ydyw yn cynnwys ond nifer bychan iawn o du dalenau; yn y rhai y mae yn benaf yn gwrth-dystio, yn y modd mwyaf difrifol, yn erbyn y cyhuddiadau anwireddus a ddodid yn ei erbyn gan Mr. Owen Davies; ac yn sicrhau y byddai yn well ganddo dalu dirwy, neu fforffed, hyd y geiniog olaf a feddai yn y byd, na byw a marw dan amddiffyn un dywediad anwireddus. Y mae yn ail-addaw, ac yn codi yn y wobr arianol a gynnygiasai iddo, os gallai brofi yr haeriadau a wnaethid ganddo: ac, yn lle bod yn "farnydd " ei hunan, fel yr awgrymasai Mr. Davies y mynai fod, y mae yn dywedyd wrtho y byddai efe yn foddlawn i'w wrthwynebwr a'i gyhuddwr gael dewis y barnydd, heb un ammod, ond yn unig iddo fod yn wr o beth cyfrifiad am ddeall ac uniondeb, ac heb fod yn aelod proffesedig o'r un gymdeithas â'i gyhuddwr. Y mae, heblaw hyny, yn cynnyg pum punt hefyd iddo os gallai brofi ei fod ef wedi arfer y fath eiriau anweddus am dano ef, neu fod un "Calvinist" o fewn Cymru, yn ystod y can mlynedd cyn hyny, wedi arfer y fath eiriau am yr Arminiaid ag a arferasid gan Mr. Davies am dano ef, mewn llyfryn mor fychan a'i lyfryn olaf ef. Mae holl dôn yr Atebiad