Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/326

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn, yn ol hyny o gof sydd genym ni am dano, yn arwyddo fod yr Awdwr yn teimlo fod a wnelai âg un nad oedd ganddo ddim ymddiried yn ei degwch dadleuol, ac âg un hefyd, yr oedd, erbyn hyn, yn hollol argyhoeddedig, ag yr oedd ei haeriadau yn groes iawn i'w broffes am ddynoethi anwireddau, ac amddiffyn y gwirionedd.

Yn fuan iawn wedi cyhoeddiad yr Atebiad hwn gan Mr. Jones, fe gyhoeddwyd "Llythyr oddiwrth Owen Davies at Mr. Thomas Jones. Dolgelleu, Argraphwyd gan R. Jones, 1811." Mae yr awdwr, yn y "Llythyr hwn, yn ymollwng i'r fath ddifriaeth, yn ol y ddawn oedd ganddo i hyny, ac yn arddangos y fath anallu i ganfod y gwahaniaeth hanfodol rhwng y syniadau y dadleuid yn eu cylch, fel na chymmerodd Mr. Jones un sylw byth o hono. Gyda golwg ar gynnygiad Mr. Jones i dalu pum punt iddo os gallai brofi ei fod ef wedi arfer y fath eiriau am Mr. Davies ag a arferasai Mr. Davies am dano ef, &c., y mae yn sylwi,— "Meddwl yr wyf fi na buasech ddim mor hael o'ch harian, pe darllenasech Bapurlen a gyhoeddodd eich brawd, Mr. Christmas Evans, yn ddiweddar; yn mha un y mae'n taer-annog y bobl i ymogelyd rhagddof, trwy ddywedyd, Mae O. D. fel llyffant du dafadenog mewn gardd, yn gwenwyno pob peth o amgylch.' Er dyhired ydych, erioed ni roddais i chwi y fath enwad a hwn." Ac yna y mae yn adgofio i Mr. Jones yr hyn a gyhoeddasid ganddo ei hunan, yn ei "Sylwadau " tu dal. 93, yr hyn a ddyfynwyd genym eisoes (tu dal. 319), ac yn myned' rhagddo,-" Yn awr, yr wyf yn gofyn mewn symlrwydd i bob un a ddarllenodd fy llyfrau i, bydded ei ddeall byth cyn lleied, a geir mewn un man o'r holl gwbl a ysgrifenais, ddim i'w gyffelybu i'r araeth hon? Yn ddiau y fath gadwyn blethedig o ymadroddion nid oes i'w chael oddigerth yn mysg 'gwehilion Billingsgate;' tinceriaid, neu gerbydwyr meddwon ac anfoesgar. . . . Bellach, gofynaf, Os wyf fi i gael fy mwrw allan o fod yn Bregethwr, ac os nad wyf ychwaith i gael bod yn aelod o un math o Gymdeithas Gristionogol mwyach, am yr hyn a ddywedais am danoch chwi, beth a ddaw o Mr. Christmas Evans? A pha beth hefyd a ddaw o honoch chwithau? Sicr yw na haeddech chwi eich dau gael dim lle hyd yn oed yn mhlith Paganiaid.—Pa fodd bynnag, i ddiweddu, lle yr ydych chwi a minnau, yn gystal a rhai eraill, fe allai, wedi bod yn fyr o lywodraethu ein tymherau a'n hysbrydoedd, maddeued Duw i ni. A chredwch fy mod, eich ewyllysiwr da, a'ch ceryddwr ffyddlawn, O. Davies" (tu dal. 11, 12).