Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/327

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma y geiriau diweddaf, trwy y wasg, rhyngddynt a'u gilydd; ac y mae yn dda genym weled cymaint â hyn o gydnabyddiaeth, ar du Mr. Davies, y gallai ei fod ef wedi bod yn fyr o lywodraethu ei dymher a'i ysbryd, a chymaint o arwydd rhyw radd o deimlad da, wedi y cwbl, at yr un y buasai cyhyd yn ymladd âg ef. Y mae Mr. Jones yntau, yn mhen ychydig flynyddoedd (Tach. 1814), yn cyfeirio at y dadleuon hyn, ac yn gwneuthur y Sylwadau canlynol arnynt, ac ar ei ysbryd ei hunan ynddynt:—" Yn agos i ddiwedd y flwyddyn o'r blaen, ar yr achlysur o fod Sectwyr Arminaidd yn amlhau yn Nghymru (a rhai o honynt yn eu pregethau, a thrwy amryw fan lyfrau, yn dryg. liwio'n anwireddus yr athrawiaeth a alwant yn Galfiniaeth, ac weithiau yn Antinomiaeth) yr oeddwn trwy annogaeth gan fy mrodyr wedi cyhoeddi Traethodyn byr tan yr enw Drych Athrawiaethol, ac wedi addaw Traethawd helaethach ar yr un achos. Yn y rhai'n, fy ymgais oedd am ddangos y wir athrawiaeth, yn ei gwedd syml ei hunan, yn ol yr Ysgrythyrau, ac yn ol golygiad y wir eglwys, neu y rhan gywiraf o honi, o'r oes Apostolaidd hyd amser y Diwygiad Protestanaidd, ac ar ol hyny. Chwanegais hefyd beth dangosiad o'r anghysonedd tra amlwg ag ef ei hun sydd i'w gael yn amryw o lyfrau y diweddar Mr. J. Wesley. A chan fod y rhai'n wedi cael rhywfath o atebion gan Mr. O. Davies, bu raid i mi gyhoeddi trydydd llyfryn (sef Sylwadau, &c.) a chwanegiad byr at hyny hefyd. Yr oedd galwad arnaf (hyd y medrwn ddeall) i ddal y ddadl hyd gymaint a hyn o feithder, o herwydd y nifeiri mawrion o ddywediadau disail ac anghywir a gyhoeddodd fy ngwrthwynebwr yn ei atebion. Ond gan fod y pethau a ysgrifenasom ger bron y rhai a chwennychant eu darllen ni wnaf fi yma ond ardystio hyn yn y modd dwysaf. Yr wyf yn cyhoedd-ddatgan ger bron y byd, ïe, a cher bron y Duw anfeidrol, a'r Barnydd cywir yr wyf yn fuan i ymddangos ger ei fron, na ddarfu i mi erioed, yn y dadleuon hyn, arfer twyll na dichell, na dadlyddiaeth ystrywgar; ond fy mod wedi amddiffyn y gwir, o ran athrawiaeth ac hanesiaeth mewn mold didwyll, yn ol cyrhaeddiad fy ngwybodaeth. Eto yr wyf yn ammau fy hun, gan feddwl fod poethder yspryd, fel y mae'n rhy debygol, wedi ymgynhyrfu ynof, a'i effeithiau i'w gweled mewn rhai o'm hymadroddion, oddiar achlysuron trymion ac aml, yn nywediadau y blaid a wrthwynebais. Er yr holl annogiadau annhirion a gefais, yn argraffedig, ac yn mhob modd arall, mae'n debygol y dylaswn arfer addfwyn-