Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/328

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

der mwy at fy ngwrthwynebwr, ond fe allai y'nghyd â llymder mwy at ei gyfeiliornadau mawrion ac enbydus. Yn ngwyneb fy holl golliadau, dymunaf erfyn ar Dduw pob gras am faddeuant a meddyginiaeth. Ac os bydd i ryw-rai gael bendith oddiwrth fy llafur, bydded y gogoniant iddo ef, yr hwn a'i piau, yn gwbl ac hyd byth." (COFIANT, neu Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parch. Thomas Jones, &c. Dinbych, Argraffedig ac ar Werth gan Thomas Gee, 1820.)

Er nad yn uniongyrchol yn y Ddadl, eto gyda golwg neillduol ar amddiffyn y syniadau Calvinaidd yr ymosodid cymmaint yn eu herbyn yn y wlad ar y pryd, fe gyhoeddwyd " Catecism Eglwys Loegr, a gafodd ei gymmeradwyo gan Gymanfa o'i Phrif Eglwyswyr, ar ei diwygiad oddiwrth Babyddiaeth, yn y flwyddyn 1562; a gyhoeddwyd yn 1570 ac amryw weithiau ar ol hyny; ac a orchymynwyd ei ddysgu yn Ysgolion y Deyrnas wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan T. Jones, allan o'r argraffiad Lladinaidd gan y Dr. Cleaver, sy'n bresennol yn Esgob Llanelwy. Argraffedig yn Ninbych, gan Thomas Gee, dros T. Jones. 1809." Amcan arbenig cyfieithiad a chyhoeddiad y "Catecism" hwn gan Mr. Jones oedd, dwyn prawf ychwanegol a phendant yn mhlaid yr hyn a honesid ganddo yn y "Drych Athrawiaethol," yn gystal ag yn y ddau Lyfr ar ol hyny yr ydym eisoes wedi bod gyda hwynt, am gyd-olygiad Sylfaenwyr yr Eglwys Brotestanaidd yn Lloegr, ar y pynciau y dadleuid yn eu cylch, â'r syniadau a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw Calviniaeth, yr hyn yr oedd Mr. Davies wedi ei wadu mor bendant ac mor gryf. Ac y mae yn ymddangos, gan na chaniateid ac yn wir y gwedid Calviniaeth yr Erthyglau, y buasai yn anhawdd iddo gael dim, a'r fath awdurdod yn perthyn iddo, fel prawf o'r honiadau a wneid ganddo, mor gyfaddas i wasanaethu ei amcan â'r "Catecism" hwn.

Ond y prif lyfr, a gyhoeddwyd yn arbenig i'r un amcan, ydoedd, "Diwygwyr, Merthyron, a Chyffeswyr Eglwys Loegr, ynghyd a'r Prif Ddiwygwyr yn Scotland, a Gwledydd Tramor; a Phrawf Dilys o'r Egwyddorion Crefyddol yr ymdrechasant o'u plaid: hefyd, Crynodeb o Hanes Eglwys Crist, hyd amser y Diwygiad Protestanaidd. Gan T. Jones. Dinbych, Argraffedig gan Thomas Gee, tros T. Jones, 1813." Mae y llyfr hwn yn gyfrol fawr pedwar plyg, ac yn cynnwys yn agos i ddeuddeg cant o du dalenau. Mae yn ddigon adnabyddus i'n hesgusodi ni am fyned heibio iddo yn awr, heb wneuthur y sylwadau y carasem eu gwneyd arno, pe buasem heb fod yn ofni gormod meithder; er nad