Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byw yn Bryn-pyll, Trefriw, ac a fu farw yno; a Jane, ei chwaer ieuangaf, a anwyd rhwng William a David, ac sydd eto yn fyw, ond gyda'r lleill o'r teulu yn Wisconsin.

Ei frodyr oeddent Richard, a fu am flynyddoedd yn ddiacon galluog a ffyddlon yn Dolyddelen, ond a ymfudodd i'r America, ac a fu farw yno yn Wisconsin: William, sef y Parchedig William Jones, gynt o'r Rhyd–ddu, Sir Gaernarfon, ond yn awr o Welsh Prairie, Wisconsin, America; a David, yr ieuangaf, yn awr y Parch. David Jones, Treborth, Sir Gaernarfon, sydd mor adnabyddus ac mor gymeradwy trwy holl Gymru, ac a fydd felly ni a obeithiwn am flynyddoedd lawer yn ychwaneg.

Ychydig iawn rywfodd, llawer llai nag a fuasai ddymunol, ac, nag yn wir, a allesid ddysgwyl, sydd genym o hanes John Jones pan yn blentyn. Y mae yn anhawdd meddwl nad oedd rhyw hynodion ynddo ef y pryd hyny a'i gwahaniaethent oddiwrth blant yn gyffredin, a buasai yn hyfryd iawn pe cawsem adroddiad têg a helaeth o honynt Y mae pawb sydd yn ei gofio yn cytuno mai plentyn llonydd, distaw, gwylaidd, ydoedd, tueddol iawn i fod wrtho ei hun, na ddywedai air yn ngwydd dieithriaid, ac yn wastad yn ymgadw, os gallai, rhag myned i'w mysg. Yr oedd rhyw argraffiadau crefyddol dwys iawn ar ei feddwl pan yn blentyn bychan iawn. Y mae Mr. William Owen, Penbrynmawr, Llanllyfni, yn rhoddi i ni yr adroddiad canlynol am dano, yn yr oedran hwnw:–" Yr wyf yn anfon i chwi hanesyn bychan a glywais gan ei fam. Dywedodd wrthyf, ryw bryd, yn Nhalsarn,— Mi a gefais fy argyhoeddi yn fawr gan John, pan oedd yn blentyn bychan, yn dyfod yn fy llaw ryw noswaith o'r seiat yn Nolyddelen. Ar y ffordd, meddai wrthyf,'

'Mae arnaf fi ofn fy mam, na ddarfu i mi erioed weddio yn iawn.' 'Beth sydd yn peri i ti feddwl hyny, 'machgen i,' meddwn inau.

Wel, eu clywed nhw yn dweyd yn y seiat heno, mai dyna ydyw gweddio, fod yn rhaid i'r meddwl ymwneyd â Duw; ac os hyny ydyw gweddio, yr ydwy' i'n ofni na ddarfu i mi ddim gweddio yn iawn erioed.'

Mi synais yn fawr ei fod, ac yntau yn blentyn mor fychan, wedi sylwi mor fanwl ar y peth oedd yn cael ymdrin ag o; yn enwedig wrth weled mor ddifeddwl oeddwn i wedi bod.' Dyna ddywedodd ei fam ei hunan wrthyf. Yr ydwyf yn cofio ei glywed yntau, amryw