Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/330

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn o'i eiddo. Nid ydoedd yn fawr, nac yn ddwfn, nac yn ddysgedig yn ystyr eangaf y gair; eto, gan fod ei feddwl wedi ei drwytho â'r fath ddifrifoldeb, a bod rhyw egni ac ymroddiad a dyfal—barhad diffino yn perthyn iddo, fe'i galluogwyd i dreiddio yn mhellach i rai o wirioneddau yr efengyl na llawer o'i gydoeswyr, ac i adael argraff ddyfnach ar feddwl ei genedl na nemawr un o honynt. Yr ydym ni, ar ol darllen yn lled fanwl ei amrywiol lyfrau, a lliaws dirfawr o'i Erthyglau, yn y "Dysgedydd," a "Seren Gomer," ac yn ei "Gofiant," wedi syrthio mewn hoffder mawr â'i gymeriad, ac yn teimlo yn wir ddrwg genyin fod ambell syniad eithafol, a geiriad annghymreigaidd annedwydd, o'i du ef, a gormod ymlyniad, o'u tu hwythau, wrth rai o hen ffurfiau y gwirionedd, mewn ofn cywir a gonest rhag wrth newid dim ar ei ffurf y collid yr hanfod o hono, ynnghyd â'u gwrthwynebiad i'r wedd braidd fwy athronaidd a roddid ar yr efengyl ganddo ef,—wedi peri i'r gwahaniaeth bychan iawn oedd rhyngddo a'n hen dadau Methodistaidd gynnyddu i'r fath raddau, yn eu teimladau, nes achosi y fath ddadleuon ac ymrysonau rhyngddynt, a chreu pellder mor fawr rhwng dau enwad crefyddol, a ddylasent fod braidd yn un, fel nad ydyw deugain mlynedd, mewn llawer cymmydogaeth, wedi effeithio i'w dwyn nemawr nes at eu gilydd. Mae yn wir fod syniadau Mr. Roberts, ar y cyntaf, wedi peri pellder llawn cymaint, os nad mwy, rhyngddo â rhai o'i frodyr ei hunan:—ac y mae rhai llythyrau, tor—calonus braidd i'w darllen, o'i eiddo, wedi eu cyhoeddi yn ei "Gofiant," yn y rhai y mae yn ymliw â'i ohebwyr yn nghylch y cam a wnelsid ag ef, neu yr oedd yn ofni a wneid iddo,—fel mai rid yr hen Fethodistiaid yn unig oeddent y pryd hyny yn methu ei ddilyn yn y cyfeiriad a gymerasid ganddo, ond fod hyny, heb fod mewn un modd yn beth annghyffredin yn mhlith yr Annibynwyr hefyd.

Y mae yn ymddangos i ni fod Mr. Roberts, pan y cyhoeddodd y Traethodyn sydd yn awr dan ein sylw, ar yr un tir â'i frodyr ei hunan a Chalviniaid Cymru yn gyffredin ar y pryd, oddieithr rhyw ddosparth o rai tra uchel, gyda golwg ar y Prynedigaeth, a'r pynciau ereill yn y rhai y gwahaniaethent oddiwrth yr Arminiaid. Mae yn wir nad ydyw yn cyfeirio dim yn arbenig at hyny, fel nas gallwn fod yn gwbl bendant ar hyn. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol hyn, yr ydym yn ei gael yn ysgrifenu at Dr. Williams, Rotherham, ac yn cydnabod ei rwymau iddo am y boddhad a gawsai yn ei sylwadau er prawf "nad oes dim