Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/331

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anghysondeb rhwng hanfodiad drwg moesol a pherffeithrwydd moesol Duw." Ond y mae eisoes yn y traethodyn hwn, dybygem ni, yn dangos fod y gwahaniaeth rhwng achos cadwedigaeth ac achos colledigaeth—y naill yn Nuw a'r llall yn y pechadur ei hunan—wedi meddiannu ei feddwl ef yn hollol—yn llwyrach, fe ellid meddwl nag yr oedd yr un gwirionedd arall wedi ei feddiannu. A dyna yr allwedd i'w holl Gyfundraeth ef. Gan ddilyn yr egwyddor yna, y glynai mor ffyddlawn wrth y syniad Calvinaidd am Etholedigaeth, Llygredigaeth dyn dan y cwymp, yr Angenrheidrwydd am waith yr Yspryd Glan, a'r pynciau cysylltiedig; ac, yn ei ffyddlondeb i'r egwyddor yna, y teimlai efe angenrheidrwydd arno i gymmeryd golwg wahanol ar Aberth ac Iawn y Gwaredwr, i'r hyn a gymmerid yn gyffredin yn Nghymru, gan y rhai ag oeddent ar yr un tu ag ef yn y dadleuon rhwng Calviniaid ac Arminiaid. Ond yr ydym yn gweled ein bod yn myned at gwestiynau sydd i ddyfod dan ein sylw yn helaethach yn yr ail ran o'r bennod hon.

Fe gyhoeddodd Mr. Roberts y traethodyn hwn, o ran sylwedd, yn y Saesonaeg hefyd, dan yr enw "A Friendly Address, to such as desire to know the Truth as it is in Jesus." Ni chawsom ni olwg ar hwn. Fe ysgrifenwyd Atebiad iddo gan un Thomas Brocas, yr hwn, os nad ydym yn cam—gymmeryd, oedd yn bregethwr cynnorthwyol gyda'r Wesleyaid yn yr Amwythig. Ni welsom hwn ychwaith. Ond fe gyhoeddwyd yn Atebiad iddo,—"A Second Friendly Address to such as desire to know the Truth as it is in Jesus: containing Reflections on a Pamphlet, written by Mr. Thomas Brocas, entitled, Universal Goodness,' &c. By the Rev. J. Roberts. Bala, Printed by R. Saunderson, 1807." Y mae hwn wedi ei ddyddio, "Llanbrynmair, August 20, 1807." Anaml iawn y gwelsom esiampl brydferthach o'r Cristion yn amddiffyn gwirionedd yr efengyl nag a gyflwynir ger ein bron yn y tu dalenau hyn. Byddai yn dda iawn genym ped adgyhoeddid y ddau draethodyn Seisonig hyn yn un llyfryn; ac yr ydym yn tybied y gallent fod, hyd yn nod y pryd hwn, yn dra gwasanaethgar i grefydd efengylaidd yn ein gwlad.

Fe gyhoeddwyd ganddo hefyd Draethodyn dan yr enw,—" Cyfarwyddiadau ac Annogaethau i Gredinwyr, i roddi cwbl ddiwydrwydd i wneuthur eu Galwedigaeth a'u Hetholedigaeth yn sicr. A gasglwyd yn benaf, allan o waith y Parch. Jonathan Edwards, o Loegr Newydd; sef, ei Draethawd ar Serchiadau Crefyddol: ac Esboniad y Dr. Owen,