Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/332

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar Psalm cxxx. Gan John Roberts. Bala, Argraffedig gan R. Saunderson, 1809." Ail-argraffwyd y traethodyn hwn yn y "Dysgedydd," y Rhifynau am Hydref, Tachwedd, a Rhagfyr, 1824; ac y mae, i'w amcan, yn un gwir werthfawr. Ond nid yw yn dal perthynas uniongyrchol â'r dadleuon hyn, ac felly nid yw yn galw am ychwaneg o sylw genym yn awr.

Yn lled fuan ar ol hyn, fe gyhoeddwyd, "Ynfydrwydd credo'r Arminiaid yngwyneb gogoniant credo'r Apostolion, a gafodd ei ystyried yn ddiweddar, gan olygu lleshad y rhai bach yn Nghrist. Gan Thomas Davies. Croesoswallt: Argraffwyd gan W. Edwards. 1807." Y Thomas Davies" hwn ydoedd weinidog gyda'r Bedwyddwyr yn y Cefn Bychan, Sir Ddinbych. Fe'i hadwaenid am flynyddoedd olaf ei oes dan yr enw Thomas Davies, Argoed. Ceir rhai crybwyllion dyddorol yn ei gylch yn "Hanes Bywyd Ellis Evans, D.D., gan y Parch. R. Ellis (Cynddelw)," tu dal. 33, 129, 130. Dywed Mr. Ellis am dano, ei fod "mor benwyllt a byrbwyll a neb. Nid oedd amheuaeth nad un o'r dynion goreu, o ran egwyddor, oedd Thomas Davies; ond rhuthrai weithiau allan o derfynau barn a doethineb; ac felly yr oedd efe yn agored i lawer o gamsyniadau." Y mae y traethodyn hwn yn mhob modd yn gyfryw ag a allesid ddysgwyl oddiwrth y fath awdwr. "Ymosodiad penboeth ar y Wesleyaid" ydyw, fel y sylwa Mr. Ellis. Mewn gwirionedd, y mae yn un o'r pethau rhyfeddaf y dygwyddodd i ni braidd erioed daro ein llygaid arno. Ni a allasem dybied y buasai yr awdwr a Mr. Bryan yn hollol y dynion i gyfarfod â'u gilydd. Y mae y syniadau sydd yn rhedeg trwy y llyfryn yn nodedig o uchel, a'i ymosodiadau ar Arminiaeth yn hynod o annghymmedrol. enghraifft: "Dyma Arminiaeth yn ei lliw ei hunan. Mae yn ddrwg genyf fod neb am ymbriodi â'r forwyn gaeth hon: gwell gan rai y wraig rydd, sef, rhad ras. Ond mae'r forwyn gaeth hon yn cadw drws agored, megis puttein-wraig i bawb, a llaweroedd yn cyrchu ati. Mae arnaf ofn y daw llawer o'i chanlynwyr i gywilydd a cholled, yn y diwedd, oddieithr iddynt weled eu camsyniadau mewn pryd. Dymunwn gyduno â phawb i weddïo drostynt." Y mae ynddo amryw gyfeiriadau o'r fath. Ar ol rhoddi math o "Gatecism," yn yr hwn y mae yn redeg yn fras dros brif bynciau athrawiaeth yr efengyl, gan ymgolli yn y "bedydd," y mae yn terfynu gydag ychydig nifer of bennillion o'r un nodwedd gwrth—Arminaidd â'r rhan gyntaf o'r llyfr.