Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/333

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae y llyfr hwn yn profi yn amlwg i ni fod mesur helaeth o annoethineb yn hynodi y dull a arferid gan lawer o'r hen dadau i amddiffyn yr hyn a olygent hwy yn wirionedd yr efengyl; a bod rhai o honynt, o leiaf, heb un syniad am y posiblrwydd i neb gofleidio y gwirionedd hwnw heb ei dderbyn yn gwbl yn y ffurf yr oedd yn cael ei ddeall ganddynt hwy.

Yr Ail Drych yn dangos erbyn Owen; neu Owen Gan John Parry. Bala, Fe ddealla y darllenydd

Llyfr arall a ddygwyd allan y pryd hyn, ac a barodd lawer o gynhwrf yn y wlad oedd, y "Drychau Cywir; yn dangos athrawiaethau Mr. Owen Davies yn yr Ymddiddanion rhwng dau gymmydog, Hyffordd a Beread: y Drych Cyntaf yn dangos fod Owen Davies yn erbyn Gair Duw, a Gair Duw yn erbyn Owen Davies. fod Owen yn erbyn Davies, a Davies yn Davies yn gwrth-ddywedyd ei hunan. Argraffwyd gan R. Saunderson. 1807." mai y "John Parry" hwn, yn gystal a chasglydd "Cofiant y Parch. John Brown," y cyfeiriasom ato uchod, ydoedd y diweddar Barch. John Parry, Caerlleon. Gyda golwg ar y llyfr hwn, y mae Mr. Jones, Dinbych, yn ei Ragymadrodd i'w "Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies, &c.," yn dywedyd," Mae Mr. J. Parry eisoes wedi rhoi allan arddangosiad byr ac amlwg o'i anghysonedd â Gair Duw, ac hefyd âg ef ei hun." Ar hyn fe ddywed Mr. O. Davies,—"Paham y mae Mr. Jones yn tadogi y llyfryn hwnw ar Mr. Parry, a chanddo fe ei hun law fawr yn y gwaith? Ond y gwirionedd yw, Mr. Parry a wyddai nad oedd ganddo ddoniau digonol i fy ngham-ddarlunio i fel yr ewyllysiai; a chan wybod fod Mr. Jones y fath athraw yn y gelfyddyd hon, efe a redodd i Ruthin i ymofyn ei gynnorthwy; a chwedi cael ei ddysgu ganddo oddeutu tri diwrnod, wele ychydig o du dalenau'n dyfod allan o'r fath dwyll gwrthun, fel na allwn gredu y gallasai un dyn yn proffesu duwioldeb wneuthur y fath beth" (Sylwiadau ar Lyfryn, &c., tu dal. 3.). Mae Mr. Jones, yn y traethodyn diweddaf a gyhoeddodd yn erbyn Mr. Davies, yn gwirio yn y modd dwysaf nad oedd dim gwir yn yr hyn a haerai Mr. Davies fel hyn am ei gysylltiad ef â llyfr Mr. Parry; ac y mae Mr. Davies yn ateb:—"Yn hyn yr wyf yn rhwydd gredu i mi fod dan gam-syniad; oblegyd er gwaeled yr wyf yn meddwl am danoch, mae genyf feddwl rhy dda am danoch i dybied y gallech feiddio gwneuthur y fath appeliad difrifol mewn amddiffyniad o anwiredd. Ond fe allai na chredwch chwi mo'nof fi,