Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/335

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe gyhoeddwyd amddiffyniad i Mr. Davies yn erbyn Mr. Parry gan un James fel y mae Mr. Davies yn ysgrifenu yr enw ("Sylwiadau," &c., tu dal. 19). Ond Mr. Games ydyw yr enw gan Mr. Jones. Nid ydym ni wedi gallu llwyddo i gael golwg ar y llyfr hwnw, ac nid ydym yn gwybod dim yn ei gylch ond a ddywedir gan Mr. Jones. Pan yn galw ar Mr. Davies i gysoni rhyw bethau a ddywedasai, y mae yn ychwanegu," Fe weddai iddo wneuthur hyn mewn modd gweddeiddiach a thecach o lawer nag y mae ei gyfaill, Mr. Games, wedi ei gysoni âg ef ei hun, ac â'r Bibl, yn ei ateb diweddar i Mr. J. Parry, onidê, yn ddiau, mwyfwy amlwg fydd ei ynfydrwydd i laweroedd, os nid i bawb" ("Sylwadau ar lyfr Mr. Owen Davies," tu dal. 112).

Ryw bryd yn y blynyddoedd hyn, nid ydym yn sicr o'r amser, canys nid oes dim ar y wyneb—ddalen, nac yn un lle yn y llyfr, i benderfynu hyny, fe gyhoeddwyd "Yr Ysgerbwd Arminaidd; neu yr Arminiad wedi ei agor a'i fanwl—chwilio. Gan Wilym Huntington, P.A. Gweinidog yr Efengyl yng Nghappel Rhagluniaeth, yng Nghappel Heol-Ffynnon-Fonach, yn Llundain; ac yn Nhrêf Richmond yn Swydd Surrey. Wedi ei gyfieithu, trwy ganiattad yr Awdwr, a'i gyhoeddi tan olygiad y Gymdeithas a sefydlwyd yn Nolgelleu er annogaeth buddiol wybodaeth. Dolgelleu: Argraphwyd gan Williams a Jones." Ni a dybiem i'r llyfr gael ei gyhoeddi tua diwedd 1807. Daeth y copi sydd ger ein bron ni i law ei berchen yn Nghaernarfon, Ionawr 17, 1808. Ni chlywsom erioed sôn am, ac nid ydym yn cofio i ni weled un cyfeiriad at, y "Gymdeithas a sefydlwyd yn Nolgelleu," ond ar wyneb ddalen y llyfr hwn. Mae y cyfieithydd yn amcanu bod yn dra llythyrenol; ond y mae yn ormod felly, weithiau, i'r darllenydd allu ei ddilyn. Y mae y P. A. yma wedi eu bwriadu i arwyddo "Pechadur Achubedig," i gyfateb i'r S. S., "Sinner Saved," a arferai Huntington yn wastadol ddodi ar ol ei enw. Y mae "Capel Rhagluniaeth" yn hawdd i'w ddeall am "Providence Chapel," lle yr oedd efe yn gwasanaethu: ond hwyrach na ddealla pawb o Gymry Llundain, ar unwaith, mai y Capel yn Monkwell Street a olygir wrth "Gappel Heol—Ffynnon-Fonach." Mae y llyfr hwn yn adnabyddus fel un nodedig o alluog a thra doniol yn ei ffordd; ond y mae yn ammheus iawn genym a oedd y cyhoeddiad o hono ar y pryd yn Nghymru yn tueddu at ddwyn y materion a drinir ynddo, ac a ddadleuid yn y wlad, i lawer ychwaneg o eglurder, tra y mae yn gwbl sicr genym nad oes llawer o gymhwysder