Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/336

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo i gynnyrchu y teimladau goreu rhwng Cristionogion a'u gilydd.

Cyhoeddodd Mr. George Lewis, Llanuwchllyn, wedi hyny Dr. Lewis, rai traethodau gallung ar y pynciau hyn, yn ystod y blynyddoedd hyny; yn neillduol,—" Dyledswydd Pawb a glywant yr Efengyl i gredu yn Nghrist; neu Alwad Gyffredinol yr Efengyl, mewn Cyssondeb ag Etholedigaeth Bersonol, Prynedigaeth Neillduol, Anallu Dyn, a Galwedigaeth Effeithiol: mewn pregeth ar Ioan, pennod xii. 36. Bala, Argraffwyd tros yr Awdwr, gan R. Saunderson, 1805." Y mae hon, yn ol ein meddwl ni, yn un o'r pethau rhagoraf, os nad y rhagoraf o gwbl, a gyhoeddwyd gan yr awdwr erioed. Argraffwyd y bregeth ar gais y gweinidogion oeddent bresennol yn y Gymmanfa lle y traddodwyd hi, yn Bethlehem, Sir Gaerfyrddin, Mehefin 18, 1805; ac y mae yn ddiammeuol ei bod yn teilyngu y fath arddangosiad o werthfawrogiad o honi ag a dybid yn y fath gais am ei chyhoeddi. Anaml iawn y buom yn darllen dim o'r fath mwy boddhäol i'n meddwl ni.

Cyfansoddiad arall, o'r un nodwedd, ydyw, " Athrawiaeth Etholedigaeth wedi ei gosod allan mewn Pregeth ar 1 Thes. i. 4, yn Bethania yn Sir Gaerfyrddin, Mehefin 1, 1809." Gan GEORGE Lewis. Dolgelleu Argraphwyd gan Richard Jones, 1809. Mae y bregeth hon yn cynnwys eglurhad cryno ond cyflawn ar ddysgeidiaeth yr Ysgrythyrau Sanctaidd ar y testyn pwysig dan sylw; ac y mae cymhwysder arbenig ynddi, dybygem ni, i ddwyn meddwl y darllenydd i ddifrifoldeb neillduol uwchben y pwnc; tra y mae yr ymdriniaeth y fath ag i wasanaethu yn rhagorol yn mhlaid yr amcanion sanctaidd a goruchel oeddent yn ngolwg yr Anfeidrol yn y dadguddiad o hono.

Y mae yn ymddangos fod cryn lawer o bregethu ar y pwnc hwn y pryd hyny: oblegyd ychydig amser cyn cyhoeddiad pregeth Mr. George Lewis, fe gyhoeddwyd un arall,—"Etholedigaeth wedi ei Hystyried mewn Pregeth, yr hon a bregethwyd mewn Cyfarfod Chwarterol yn Aberteifi, Chwefror 17, 1807. A argraffwyd ar ddymuniad y gweinidogion ac ereill a gyfarfu yno. Gan John James, o Aberystwyth. Caerfyrddin: Argraffwyd, ac ar werth, gan J. Evans. 1808." Un o'r Bedyddwyr oedd Mr. John James. Bu, ar ol hyn, yn gydberchenog Argraffdy, yn Aberystwyth, gydâ thad Mr. Phillip Williams, sydd yno yn awr; ac fe welir mewn amryw hen lyfrau, a argraffwyd ganddynt yno, eu henwau gyda'u gilydd, megis "James a Williams."