Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/337

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Testyn y bregeth hon ydyw, Ephesiaid i. 4. Mae, ar y cyfan, yn bregeth dda, ac yn ymdrin â'r mater mewn dull buddiol iawn; er nad ydyw yr awdwr ynddi yn cymmeryd yr olwg ëang ar y pwnc, ac ar ei gysylltiadau, ag a gymmerir gan y Dr. Lewis yn y bregeth a nodwyd genym yn ein sylw blaenorol.

Fe gyhoeddwyd traethodyn bychan tua y pryd hwn gan Mr. Christmas Evans, yn yr hwn yr ymosodai yn ddiarbed ar y brodyr Wesleyaidd. Mae pob ymdrech o'r eiddom i gael gafael arno wedi bod yn hollol aflwyddiannus, fel nas gallwn roddi ei enw na pha bryd yn neillduol y cyhoeddwyd ef; ac nid ydym yn gwybod dim am dano, oddieithr yr hyn a glywsom gan un hen ŵr, a'r dyfyniad o hono gan Mr. O. Davies, y cyfeiriasom ato eisoes (tu dal. 324). Mae yn eithaf amlwg, oddiwrth y cyfeiriad hwnw ato gan Mr. Davies, ei fod ef wedi teimlo yn ddwys oddiwrtho, er nad ydym yn cael iddo ef, nac i neb o'i frodyr, gyhoeddi atebiad uniongyrchol iddo. Fe gyhoeddwyd llyfr arall gan Mr. Christmas Evans, yn 1811, ar "Neillduolrwydd y Prynedigaeth," yn yr hwn tra yn ymosod yn erbyn Arminiaeth y mae eto yn benaf yn amcanu ceisio chwilio i mewn i'r hyn sydd yn cyfansoddi y "Neillduolrwydd" y dadleuai drosto, ac, felly, fe ddaw ei gynnwysiad yn fwy naturiol dan ein sylw ni yn yr ail ran o'r bennod hon.

Wedi cyhoeddi "Llythyr oddiwrth Owen Davies at Mr. Thomas Jones," yn y flwyddyn 1811, gan na welodd Mr. Jones yn briodol gyhoeddi un Atebiad iddo, ac felly parhau y ddadl âg ef, y mae yn ymddangos i ychydig seibiant oddiwrth ymladd gymmeryd lle rhwng y pleidiau ac yr oedd hyny, erbyn hyn, yn beth newydd iawn yn y wlad. Yr oedd amryw bethau, fe allai, yn cyd—dueddu i beri y fath heddwch. Yr oedd amgylchiadau cyfyng y deyrnas yn wladwriaethol oblegyd parhad y rhyfel â Ffrainc, a rhyfel arall ag Unol Daleithiau yr America, a dorodd allan yn 1812 ac a barhaodd am yn agos i ddwy flynedd, wedi dwyn Cristionogion yn gyffredin i deimlo fod yn llawn bryd iddynt nesau at yr Arglwydd yn achos eu gwlad: ac fe sefydlwyd cyfarfodydd gweddio yn mhob tref, braidd, trwy Gymru, yn y rhai yr oedd yr amrywiol enwadau annghydffurfiol yn cyduno a'u gilydd. Ac y mae yn ddiammheuol fod y cyfarfodydd hyny wedi effeithio er nesau cryn lawer ar Gristionogion, o ran eu teimladau, y naill tuag at y llall. Yr oedd ein brodyr Wesleyaidd yn Nghymru hefyd, erbyn hyn, wedi myned i gryn brofedigaeth, mewn amrywiol fanau, yn achos y Capeli