Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/338

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a adeiladasid ganddynt a dyledion trymion yn gorphwys arnynt; ac, oblegyd fod yr amseroedd mor wasgedig, a llâg arian mor uchel, nid oeddent yn gallu casglu digon mewn llawer o leoedd i dalu y llogau. Heblaw hyny, yr oedd yr ysbryd anesmwyth i'r ffurf—lywodraeth Wesleyaidd, a ddaeth i'r golwg yn fwy amlwg yn mhen amryw flynyddoedd wedi hyny, nid yn unig yn nghyhoeddiad "Y Llafn Aur," ac "Amddiffyniad i'r Llafn Aur," ac amryw draethodau cyffelyb, ond mewn Ymraniad cyhoeddus, eisoes yn dechreu blino amryw o'u cymdeithasau. Fel rhwng pob peth, yr oedd eu gweinidogion yn teimlo fod ganddynt ddigon o destynau pryder yn eu plith eu hunain heb ychwanegu atynt ddadleuon â phobl ereill.

Yr oedd gradd o wahaniaeth hefyd, yn y cyfamser, wedi dyfod i'r golwg rhwng syniadau y rhai a enwid yn Galviniaid â'u gilydd, a chryn ddadleu rhyngddynt, mewn gwahanol gylchoedd, er nad eto yn uniongyrchol trwy y wasg; fel nad oeddent hwythau yn teimlo yn awyddus iawn i ymosod ar y brodyr Arminaidd, tra braidd yn rhanedig yn eu plith eu hunain. Ond, wedi tua saith mlynedd o lonyddwch, fe dorwyd ar yr heddwch, trwy gyhoeddiad,—" Prynedigaeth Cyffredinol, neu Crist wedi marw dros bawb: sef, Pregeth, ar 2 Cor. v. 15. A gyhoeddwyd yn fwyaf neillduol, er lles Proffeswyr ieuainc, yng Nghylchdaith Treffynnon. Gan Samuel Davies. Treffynnon: Argraphwyd gan E. Carnes. 1818." Fe gyhoeddwyd ail argraffiad o'r Bregeth hon yn yr "Efengylydd," neu Gasgliad o Bregethau yr awdwr, a ddygwyd allan wedi ei farwolaeth ef. Yr oedd y bregeth wedi ei thraddodi, cyn ei chyhoeddi trwy y wasg, nid yn unig yn holl gapelau y gylchdaith lle y llafuriai yr awdwr ar y pryd, ond yn y rhan fwyaf o'r Capelau, yn y prif drefydd o leiaf, a berthynent i'r Wesleyaid yn Ngogledd Cymru; a thybid ei bod yn gyfryw ag a roddai derfyn am byth ar y ddadl a ffynai yn y wlad ar y pwnc. Ond anaml iawn y cyfarfuasom â chyfansoddiad o nodwedd mor uchelgeisiol yn ymddangos yn meddiannu llai o gyfaddasder i hyny. Mae yr awdwr yn sicr yn arddangos cryn lawer o allu i wneyd honiadau mawrion, yn y modd mwyaf haerllug a thrahaus, ac mewn dull hwyliog, eithaf cymhwys i effeithio ar ryw fath o dymherau: ond y mae yn llawer iawn rhy amddifad o'r pwyll, y gochelgarwch, a'r craffder beirniadol a deongliadol, angenrheidiol er penderfynu ystyr dysgeidiaeth y dadguddiad dwyfol ar y testyn sydd ganddo dan sylw; ac yn ymddangos fel un ar dir anffaeledigaeth heb