Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/339

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erioed ymdeimlo â'r anhawsderau cysylltiedig â'i gyfundraeth ei hunan. Mae yn ammheus genym a allai darlleniad y bregeth hon effeithio er ennill un dyn pwyllog, meddylgar, a hollol ddiragfarn, o syniadau gwrthwyneb, i gofleidio y syniadau a ddysgir ynddi; tra, yr un pryd, fe allai, yr addefai pob un o'r cyfryw fod yr awdwr wedi cyfeirio at gynnifer o ysgrythyrau ag sydd yn ymddangos yn gosod gwedd gyffredinol ar ddibenion marwolaeth Crist, ag i beri iddo deimlo yr angenrheidrwydd am ryw egwyddor er cysoni yr amrywiol ymadroddion ysgrythyrol â'u gilydd, nad ydyw yr awdwr ei hunan wedi cael gafael arni, nac erioed, dybygid, wedi meddwl fod dim o'i heisiau.

Tua yr un amser ag y cyhoeddwyd y "Bregeth" hon, fe gyhoeddwyd hefyd un arall, a dynodd ar y pryd gryn lawer o sylw, ac a ystyrid gan y cyfeillion Wesleyaidd yn ddigon i benderfynu am byth y ddadl rhyngddynt a'u brodyr Calvinaidd, ar y testyn neillduol yr ymdrinir àg ef ynddi:—"Cyfiawnhad trwy Ffydd: sef, Pregeth a bregethwyd mewn Cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghapel y Wesleyaid yng Nghaernarfon, 17 o Fedi, 1817, ac a argraphwyd ar ddymuniad y Pregethwyr a'r Blaenoriaid. Gan D. Rogers. Dolgelleu: argraphwyd gan Richard Jones, dros yr awdwr. 1818." Yr oedd Mr. David Rogers yn cael ei gydnabod yn gyffredin yn un o'r rhai galluocaf yn mhlith pregethwyr cyntaf y Wesleyaid yn Nghymru, ac yr ydym ni yn tueddu i dybied, oddiwrth yr hyn a glywsom am dano, ynnghydag oddiwrth y bregeth hon a rhai cyfansoddiadau ereill o'i eiddo, nad oedd yr un o honynt i'w gystadlu ag ef. Fe'i ganwyd yn Llanfair, Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1783. Fe ymunodd a'r Wesleyaid pan oedd yn llencyn ieuanc, yn lled fuan wedi eu dyfodiad cyntaf i Gymru. Pan ydoedd tuag ugain oed fe ddechreuodd bregethu. Yn y flwyddyn 1805 fe'i galwyd i'r weinidogaeth deithiol rëolaidd. Wedi bod yn llafurio yn mhlith y Cymry am tua phedair blynedd ar ddeg,—dwy o'r rhai a dreuliasid ganddo yn Llundain,—fe'i symmudwyd gan y Gynnadledd, yn y flwyddyn 1819, i Loegr, i lafurio yn hollol yn mhlith y Saeson; ac yno, yn Darlington, yn Durham, y bu farw, yn mis Ionawr, 1824, pan nad oedd eto yn llawn un mlwydd a deugain oed. Mae y bregeth hon yn ei arddangos yn un o feddwl gwrol, ëon, penderfynol, ac o duedd i gyfleu yr hyn a olygid ganddo yn wirionedd mewn gwedd ymresym— iadol, gyda chryn allu i hyny. Ond y mae angenrheidrwydd ei Gyfun— draeth, yn ol ein meddwl ni, yn ei arwain i wneuthur lliaws o haeriadau