Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

droiau, mewn ymweliadau eglwysig, wrth annog rhïeni i arfer dwyr eu plant i gyfarfodydd neillduol yr eglwys, yn dywedyd,—

"Pan yr oeddwn i yn fachgen yn llaw fy nhad, wedi myned i'r seiat yn Nolyddelen, daeth hen ferch, fyddem ni yn alw ar yr enw Modryb Nannws, i'r capel. Eisteddodd ar fainc yno; ac wrth eistedd, dwyedodd 'Bendigedig, do, do, fe gaed Aberth o'r diwedd. Soniwyd llawer am dano; bu llawer o bethau yn ei gysgodi; ond ar Galfaria fe'i haberthodd ei hun yn ddifai i Dduw. Bendigedig.' Ië, Bendigedig,' meddai fy ewythr, John Williams, ac yr oedd y dagrau gloewon yn treiglo dros ruddiau y ddau. Cafodd ei dywediad y fath argraff ar fy meddwl, er mor ieuanc oeddwn, fel nad annghofiais ef byth.'"

Yn gydweddol â'r adroddiadau hyn, yr oedd rhywbeth hynod o ddifrifol a digellwair ynddo, pan yn blentyn bychan iawn, ac nid oes neb yn cofio odid ddim tuedd ynddo ef at chwareu, fel sydd mewn plant yn gyffredin. Dywed ei frawd y Parch. William Jones, nad oedd yn cael ei ystyried ganddo ef a'i frawd Richard yn werth dim at chwareu. Ac eto byddai yn wastadol yn ymddifyru mewn rhyw bethau o'i eiddo ei hunan. Dyffryn lled gul ond tra phrydferth ydyw Dolyddelen, yn gorwedd rhwng mynyddoedd uchel, ac afon gref yn rhedeg trwy ganol ei wastadedd, yr hon, ar ei ffordd yn mlaen, sydd yn derbyn i mewn iddi amryw afonydd ereill, yn enwedig o Benmachno ar y naill law ac o Gapel Curig ar y llaw arall, ac yn eu hymuniad yn ffurfio y Cynwy, yr hon sydd yn cael y môr yn Abercynwy, rhyw ddeng milltir ar hugain o'i tharddiad cyntaf. Mae yr afon hon yn rhedeg trwy dyddyn Tan-y-Castell, ei gartref genedigol ef, ac fe ennillodd lawer iawn o'i sylw yn ei ddyddiau plentynaidd. Ei dyfroedd hi fyddai yn troi olwynion ei beiriannau, ac yn dïodi ei wartheg a'i geffylau prenau. Treuliodd oriau lawer ar ei glànau, yn ceisio gweithio allan ryw gynlluniau a fyddent ganddo, y credai, y pryd hyny, nad oedd neb erioed wedi dyfeisio eu cyffelyb. A mawr fyddai ei lawenydd pan y byddai ambell ddyfais yn troi allan yn llwyddiannus. Ond ei brif bleser, pan yn blentyn, oedd darllen, canu, a phregethu, yn enwedig pregethu. Dysgodd ddarllen Cymraeg yn dda pan yn ieuanc iawn. Yr oedd yn hoff iawn o'r Ysgol Sabbothol, ac yn ymroddi o wirfodd ei galon i'w llafur cyffredin hi. Dysgodd Hyfforddwr y Parchedig Mr. Charles o'r Bala, drwyddo, pan yn bur ieuanc. Ond yr hyn a hoffid yn benaf ganddo oedd pregethu. Ar y cyntaf, ei bwnc mawr oedd dynwared y