Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/340

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tra disail, ac yn fynych i'r hyn sydd yn ymddangos yn dwyll-resymu oddiar egwyddorion hollol gyfeiliornus. Testyn y bregeth ydyw Act. xiii. 39. Wedi ychydig o sylwadau arweiniol, y mae yn dyfod at y pwnc arbenig yr amcanai ei brofi, sef, mai fydd, ac nid cyfiawnder Crist, "yw y cyfiawnder ag y mae Duw yn ei gyfrif i'r hwn ag y mae yn ei gyfiawnhau" (tu dal. 8). Y mae yn esbonio hyn fel yn golygu "ei bod yn gwasanaethu i ddyn o dan y cyfammod newydd yr un peth ag a fuasai cyfiawnder yn ei wneuthur o dan yr hen gyfammod " (tu dal. 9). Mae yn wir yn addef nad yw "yn meddwl ffydd ynddi ei hun, neu ar wahan oddiwrth Grist;" ac y mae yn gwadu "fod na rhinwedd na haeddiant mewn ffydd ynddi ei hunan" (tu dal. 10) i fod yn gyfiawnder; tra, yr un pryd, y mae yn hòni nad yw y cyfiawnder angenrheidiol er cyfiawnhad pechadur, yn nhrefn yr efengyl, yn "gyfiawnder perffaith, neu ufudd—dod diball i'r gyfraith" (tu dal. 11), am y gall "y Barnwr, yr hwn sydd yn Ben—arglwydd, ac o ganlyniad yn meddu ar allu pen—arglwyddiaethol, wneuthur y cyfnewidiadau a fyno efe yn ei gyfraith, fel y byddo rheswm neu uniondeb yn gofyn" (tu dal. 4): ac, yn ganlynol, y mae yn gwneuthur hyny; ac y mae "ffydd," yn lle "ufudd—dod perffaith," yn cael ei dderbyn yn gyfiawnder. Nis gallwn ddilyn yr awdwr trwy yr holl bregeth. Ac nid oes angenrheidrwydd am hyny; oblegyd nid yw yn cynnwys dim fel athrawiaeth ond a geir gan Mr. Wesley, ac ar ei ol ef gan Dr. Bunting, Mr. Richard Watson, ac ereill, ar y pwnc: ond y mae lliaws o'r dadleuon a ddefnyddir ganddo, ac, yn arbenig, y wedd neillduol a roddir arnynt yn per fod tôn, y cyfansoddiad yn dra anefengylaidd; ac y mae yn amlwg nas gallai cyhoeddiad y fath syniadau lai nag effeithio er peri i'r rhai oeddent o'u mebyd wedi eu dysgu yn athrawiaeth y Diwygiad Protestanaidd am Gyfiawnhad, deimlo yn ddirfawr wrth weled syniadau mor wahanol, ac yn eu bryd hwy mor annghydweddol â os nad dinystriol i hanfod yr efengyl, yn cael eu dysgu gyda'r fath haerllugrwydd o'r pulpud a thrwy y Wasg Gymreig.

Yn mhen ychydig wythnosau wedi cyhoeddiad y "Pregethau" hyn, fe gyhoeddwyd " Ymddiddanion rhwng Thomas y Colier, a Dafydd y Miner, yn y flwyddyn 1818, y'nghylch Amryw Bynciau y Grefydd Grist'nogol. Wedi ei ysgrifenu er Addysg proffeswyr ieuaingc, ac ereill, gan Hen Finer. Trefriw: Argraffwyd gan J. Jones." Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r llyfryn hwn yn 1819, gan Samuel Williams,