Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/341

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aberystwyth, ond, hyd ag y sylwasom ni, heb un cyfnewidiad nac ychwanegiad. Nid ydym wedi llwyddo, er cryn lawer o ymofyn, i allu cael allan pwy oedd yr "Hen Finer," ac y mae yn debygol fod hyny yn awr yn anmhosibl. Parodd cyhoeddiad y gwaith hwn gynhwrf dirfawr yn y wlad, yn enwedig yn mhlith y Wesleyaid; ac y mae hyny yn ymddangos yn rhyw beth rhyfedd ac agos anhygoel erbyn sylwi ar ei nodwedd. Y mae yr awdwr yn ysgrifenu yn nghymeriad dau gymmydog, gweithwyr cyffredin, yn ymddyddan yn rhydd a chyfeillgar ar yr amrywiol bynciau mewn dadl rhwng y Calviniaid a'r Arminiaid, lle y mae Dafydd y Miner yn esbonio i'w gyfaill athrawiaeth y Wesleyaid, allan o'u llyfrau eu hunain, ac yn dangos iddo eu hannghysondeb â Gair Duw. Y mae yn gwneyd hyny yn y modd mwyaf syml a diaddurn, heb arwyddo dim o'r gallu a dybiesid a fuasai yn angenrheidiol, mewn rhyw wedd neu arall yn y fath waith, er rhoddi iddo unrhyw ddylanwad ar feddwl y wlad. Ac eto fe ennillodd ddylanwad mawr, a daeth yn hynod o boblogaidd; ac ystyrid gan lawerodd y pryd hyny fod yr "Hen Finer" wedi rhoddi terfyn ar y ddadl Arminaidd am byth. Yr oedd yr awdwr, y mae yn amlwg o olygiadau Calvinaidd uchel, heb nemawr gydnabyddiaeth, ni a dybiem, ag ysgrifeniadau yr awdwyr galluocaf ar y testynau dan sylw ganddo, ac heb ond ychydig allu i fyned i mewn, gydag un manylder, i ystyr yr Ysgrythyrau a ddyfynir ganddo er gwrthbrofi y syniadau yr ysgrif enai yn eu herbyn. Ond, tra heb geisio celu yr argyhoeddiad a deimlid ganddo ef, fod y golygiadau Arminaidd, nid yn ffurf arall ar wirioneddau yr efengyl eithr yn ddinystr ar hanfod yr efengyl ei hunan, y mae yn ysgrifenu mewn ysbryd hynaws, ac mewn tymher grefyddol, ac mewn iaith gwbl weddus a digecraeth, yr hyn oedd yn beth lled annghyffredin yn nadleuwyr y dyddiau hyny.

Yn atebiad i'r llyfr hwn, fe ddygwyd allan—"Amddiffynwr y Gwir: yn yr hwn y danghosir oferedd ymddyddanion y Collier a'r Miner, ac mor Afresymol ac Anysgrythyrol yw'r Athrawiaeth ag y maent hwy o'i phlaid. Yr ail argraphiad, wedi ei ddiwygio. Dolgelleu: Argraphwyd, gan R. Jones. 1823." Nis gallasom lwyddo i gael golwg ar yr argraffiad cyntaf, fel nas gwyddom yn bendant pa bryd y cyhoeddwyd ef. Ni a dybiem, pa fodd bynag, iddo gael ei ddwyn allan ryw bryd cyn diwedd y flwyddyn 1819, oblegyd ni a gawn Mr. Samuel Davies, yn ei Ragymadrodd i'w draethawd "Calfiniaeth wedi ei Dad-