Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/342

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lenu," yr hwn a ddyddiwyd Chwefror 18, 1820, yn cyfeirio ato fel un oedd wedi ateb yr Hen Finer, mewn dull tra cyfaddas i'r fath gyhoeddiad, ac wedi dangos i'r byd, erchylldod a gwrthuni yr athrawiaethau a amddiffynir ynddo." Awdwr y llyfryn hwn, er nad yw ei enw ar y Wyneb-ddalen ac nad oes ond "E. J. Ll." wrth ei gyfarchiad at y darllenwyr, oedd Mr. Edward Jones, Llantysilio; un, er ei fod cyn ei ymuniad â'r Wesleyaid yn arfer gwrandaw ar os nad oedd yn aelod gyda'r Methodistiaid Calvinaidd, a "aeth," fel y dywed ei fywgraffydd, "yn elyn Calfiniaeth o galon." Nid oes eisiau ond darllen y llyfryn hwn yn gystal a'i lyfrau ereill yn ei herbyn, er cael argyhoeddiad llawn o hyny; ac hefyd er cael digon o brawf fod ei elyniaeth tu ag ati a'i ragfarn yn ei herbyn, yn llawer mwy na'i wybodaeth am dani a'i allu i'w gwrthsefyll. Yr oedd rhywbeth a ymddengys i'r darllenydd cyffredin yn ddieithrol ac anesboniadwy yn nheimlad yr hen frawd hwn yn erbyn yr hyn a olygid ganddo ef wrth Galfiniaeth; yr oedd ei holl natur yn ymgynhyrfu yn ei herbyn, ac nis gallai oddef y meddwl am ganiatau fod dim da yn perthynu iddi. Yn y llyfr hwn yr ydym yn cael eglurhâd ar hyn. Y mae yn ymddangos iddo gael ei arwain gan ryw syniadau, a elwir ganddo ef yn Galviniaeth," i'r fath deimladau anobeithiol fel ag i fod mewn profedigaeth i'w ddinystrio ei hun:—" a bydded hyn," medd efe, "yn hysbys i'r holl fyd, y buaswn i yn uffern cyn bod yn ddeunaw oed, oni buasai i mi gael cymhorth gan Dduw i gredu mai celwydd yw Calfiniaeth" (tu dal. 23). Yr oedd yn synio an Galviniaeth megis cyfundraeth a wnelai hob ymdrech am iachawdwriaeth ar du rhyw rai yn gwbl ofer, ac ar du y lleill yn hollol afreidiol, ac ni wnai pob gwrthdystiad yn erbyn y fath ddarluniad o honi effeithio dim arno er peri iddo synio yn wahanol; ac nid yn unig hyny, ond yr oedd y dychymyg wedi meddiannu ei feddwl ei hunan mor lwyr fel na fynai ei argyhoeddi nad oedd ei wrthwynebwyr yn coleddu y cyfryw syniadau eu hunain. Y mae (tu dal. 23) yn adrodd chwedl anhygoel iawn, "am un o Flaenoriaid y Calfiniaid," yn addef peth felly wrth ryw un—efe ei hunan, fe ddichon,―oedd wedi ymuno â'r Wesleyaid. Mewn gwirionedd, dan ddylanwad y rhagfarn oedd yn ei feddwl, nid oedd yr un chwedl am Galviniaid yn rhy wag a disail ganddo i roddi coel iddi, nac un syniad yn rhy wrthun nac ystryw yn rhy isel ganddo i'w briodoli iddynt. Er esiampl: y chwedl anwireddus y cyfeiriasom ati eisoes (tu dal. 287,