Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/343

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

288), am y Parch. John Jones, Treffynnon, y mae yn dywedyd yn bendant yn y llyfr hwn, iddo ef ei hunan glywed "John Jones, o Gaergwrle, yn cymmeryd yr hyfdra i ddweud ar ei bregeth yn Llangollen, ryw amser yn ol, nad aeth un plentyn bach erioed i'r Nefoedd, onid aeth ef yno trwy ddrws y cefn, ac na chlywodd ef erioed fod y fath le a drws y cefn i fyn'd i'r Nefoedd. A bod uffern wedi ei phalmantu â phenau Babanod. Ond mi a'i clywais ef y bregeth gyntaf ar ol hyny yn Llangollen, yn addef ei gamsyniad, ac yn proffesu ddarfod iddo gael goleuni gwell ar y pwngc: A dyma oedd ef; sef, Fod plant yr etholedigion, a fyddai feirw yn eu babandod, yn cael myned i'r nefoedd" (tu dal. 27). Yr oedd yr hen frawd o Gaergwrle yn tystio fod hyn oll yn anwiredd hollol: cyhoeddodd hyny, yr ydym yn awr yn deall, nid yn unig yn Beaumaris yn y flwyddyn 1826, fel y crybwyllasom o'r blaen, ond yn mhob pulpud braidd yn Sir Fflint; ac nid oedd neb yn Llangollen yn cofio clywed dim tebyg yn cael ei ddywedyd ganddo yno i'r hyn a haerid gan ein hawdwr. Yn awr, nid ydym ni yn gweled fod modd rhoddi cyfrif am hyn, oddieithr ar y dybiaeth fod ei ragfarn yn erbyn Calviniaeth y fath ag i'w arwain, yn anymwybodol, i roddi ystyr hollol wahanol, yn ei feddwl ei hun, i eiriau y pregethwr i'r hyn a amcenid ganddo ef ynddynt; ac i briodoli iddo ef, fel un adnabyddus megis Calvin uchel, y syniadau, yn ol ei ddychymyg ei hunan am y Gyfundraeth a dderbynid ac a ddysgid ganddo, oeddent hanfodol ac angenrheidiol iddi. Yr oedd yr awdwr yn sicr yn credu fod Calviniaeth yn beth mor ddrwg a niweidiol fel nad oedd un iaith yn rhy isel a gwaradwyddus ganddo i'w defnyddio er ei diystyru, nac unrhyw awgrym yn rhy annheg ac annheilwng yn ei olwg, os tybiai y tueddai i ddarostwng rhyw gymmaint ar ei dylanwad neu ar ddylanwad y rhai a'i pleidient. Yn y llyfryn hwn, y mae yn awgrymu fod y Calviniaid yn dysgu "fod dyn yn gyfiawn yn nghyfiawnder cyfrifol Crist, cyn credu ynddo ef," ac nad yw credu yn Nghrist yn angenrheidiol er maddeuant (tu dal. 32): ac y mae yn bendant yn honi:"Ni waeth pa ddrwg a wneiff dyn os yw Calfiniaeth yn wir; nid oes perygl colli un o'r etholedigion, na chadw un o'r gwrthodedigion: dyma yr athrawiaeth felldigedicaf a ffurfiwyd erioed" (tu dal. 18). Mae y traethodyn drwyddo yn arddangos yr awdwr yn un mor llawn o haerllugrwydd yn ei honiadau, mor eithafol ac annghymedrol yn ei ddifriaeth, ac mor ddilywodraeth ar ei dymher a'i ysbryd, fel ag i