Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/344

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

demtio un braidd i dybied fod mesur o'r hen wallgofrwydd, ag y buasai unwaith ar syrthio iddo, cyn bod yn ddeunaw oed, yn parhau i'w flino, pa bryd bynnag y dygid yr hen achlysur iddo i gyfarfyddiad bywiog ac effeithiol â'i feddwl.

Tua'r pryd hwn, neu, yn hytrach, ychydig cyn hyn, fe gyhoeddwyd, —"Prynedigaeth Neillduol, neu Grist yn rhoi ei hun dros yr Eglwys. Lle y cadarnheir yr Athrawiaeth; ac y gwrthbrofir yr holl Resymiadau a arferir i'w herbyn mewn Pregeth a gyhoeddodd Mr. Samuel Davies ar Brynedigaeth Cyffredinol. Argraffwyd gan J. Fletcher." Awdwr y llyfr hwn oedd Mr. Evan Evans, a ddaeth wedi hyny yn adnabyddus trwy Gymru fel bardd, megis "Ieuan Glan Geirionydd." Yr oedd y pryd hwn yn aelod eglwysig gyda y Methodistiaid Calvinaidd yn Nghaerlleon, lle yr ydoedd yn cynnorthwyo gyda golygiaeth "Goleuad Gwynedd," ac yn cael ei gydnabod fel gŵr ieuanc meddylgar, ac wedi cael dysgeidiaeth uwch na'r cyffredin. Nid oes dim yn y llyfr i benderfynu yn hollol pa bryd y cyhoeddwyd ef: ond, gan i bregeth Mr. Davies gael ei chyhoeddi yn Gorphenaf, 1818 (Rhagymadrodd Calviniaeth wedi ei Dadlenu), a bod y llyfr arall gan Mr. Davies, yn atebiad iddo, y cyfeiriwyd yn awr at ei Ragymadrodd, wedi ei gyhoeddi yn nechreu y flwyddyn 1820, y mae braidd yn sicr mai yn y flwyddyn 1819, y cyhoeddwyd hwn. Nid oedd yr awdwr y pryd hyny ond gŵr ieuanc 24 oed, a'i feddwl yn amlwg, fel yr eiddo Mr. Davies o'r tu arall, heb ymeangu i'r fath raddau ag i allu cymmeryd i mewn y gwirioneddau gwrth—gyferbyniol a ddysgir yn yr Ysgrythyrau ar y testyn y dadleuid arno. Ond y mae yn arwyddo amcan cywir, a chryn lawer o allu, i chwilio i mewn i gysylltiadau yr ysgrythyrau a ddefnyddir ganddo er prawf o'i olygiadau ei hunan, yn gystal ag er eglurhau ystyr briodol yr adnodau a ddefnyddid gan Mr. Davies, er cadarnhau ei olygiadau yntau: ac y mae yn fynych yn rhoddi dyrnod i'w wrthwynebwr sydd yn ei godymu yn hollol, ac yn peri i'w gyfundraeth ymddangos, er yr holl arddangosiad o ddigonolrwydd i bawb a broffesir ynddi, yn rhywbeth heb ddigon, mewn gwirionedd, ynddi i neb.

Nid oedd lle i ddysgwyl y byddai i'r fath Atebiad, i un a ddaethai allan gyda'r fath honiadau, ac yr udganesid cymaint o'i flaen, gael ei adael yn ddisylw; ac, felly, yn fuan fe ddygwyd allan lyfr drachefn, dan yr enw," Calfiniaeth yn cael ei Dadlenu, a'r Gwirionedd ei Amddiffyn, Lle y gwrthbrofir yr holl ffug-resymau a arferir, o blaid Pryn-