Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/345

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edigaeth Neillduol, mewn Llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Evan Evans; ac y cadarnheir Cyffredinolrwydd y Prynedigaeth trwy Resymau ac Ysgrythyrau di—wadadwy. Gan SAMUEL DAVIES. Caernarfon: Argraphwyd gan J. Hulme; ac ar werth gan holl Bregethwyr y Trefnyddion Wesleyaidd yn Nghymru. 1820."—Y mae y llyfr hwn o'r un nodwedd a'r Bregeth y mae yn amddiffyniad iddi; ond yn fwy eithafol na hono, ac yn gyflawn o gamddarluniadau dychrynllyd ar yr athrawiaeth yr ymosodir ynddo yn ei herbyn. Y mae yn haeru ar ol haeru, fod y syniad Calvinaidd am Etholedigaeth, yn cynnwys, nid yn unig amcan ac arfaeth," fel yn ol Arminiaeth, "o eiddo Duw erioed, i gasglu yr holl anghredinwyr, anufuddion, ac anghyfiawnion, a'u rhoi yn y carchar tragywyddol, yno i ddioddef yr hyn sydd yn gynnwysedig mewn llid yr Oen, dros oes anfarwol, a diderfyn;" ond hyny, tra yr oedd "arfaeth a chynghor Duw yn eu gosod tan angenrheidrwydd anocheladwy i bechu, i anghredu, &c., ac o ganlyniad . . . . . . tan angenrheidrwydd anocheladwy i fod yn golledig byth;" fel "i bob sicrwydd," mai "ei arfaeth ef ydyw yr achos, a'r unig achos, o'u damnedigaeth!!!" ' Uwchben y camddarluniad cableddus hwn y mae yn gwneyd yr ymdrech erthylaidd canlynol at hyawdledd:—"Onid yw yn bryd i ni waeddu, Mawr yw Etholedigaeth y DIANA, a MAWR ARUTHROL yw Gwrthodedigaeth, y dychrynllyd a'r difäol Moloch, y Calfiniaid! Chwi Bobloedd, Cenhedloedd, a Ieithoedd, ymgrymwch ac addolwch! Bydded i ganiadau Etholedigaeth ddiammodol, foddi swn waeddfeydd y babanod dirglwyfus sydd yn cael eu haberthu yn y tân i Moloch! Boed i grefyddoldeb y naill i daflu gorchudd dros echryslonrwydd a dychrynfeydd y llall!!!" (tu dal. 28, 29). Drachefn: "Os ydyw Calfiniaeth yn wir, nid ar y damnedigion y bydd y bai; eithr ar y Drindod sanctaidd a byth fendigaid. Ar y Tad, yn gymmaint ag na ddarfu iddo eu hethol; ar y Mab, yn gymmaint ag na ddarfu iddo eu prynu; ac ar yr Yspryd Glân, yn gymmaint ag na ddarfu iddo eu galw yn effeithiol, a'u cynnysgaeddu â gras cadwedigol" (tu dal. 30). Mae ganddo lawer o ffregod cyffelyb. Y mae yn ymddangos yn wir fel un heb ddim gallu i ddeall elfenau cyntaf yr athrawiaeth yr ymosodai yn ei herbyn, ac yn ddigywilydd yn taeru fod marwolaeth Crist—yr honai ei wrthwynebwr am dani, yn gyson â'r hyn a ymddangosai iddo ef yn ddysgeidiaeth bendant a dieithriad yr ysgrythyr, a fwriadesid yn unig i sicrhau iachawdwriaeth