Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/346

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bywyd tragywyddol trwy sicrhau ffydd a sancteiddrwydd, yn ol dysgeidiaeth y Calviniaid, yn caniatau i'r etholedigion ("gan fod eu Meichniydd wedi marw yn eu lle), wneud fel y mynont; gallant dyngu a rhegu; lladd a godinebu; meddwi a gwneuthur pob ffieidd—dra; nis gelwir hwynt i gyfri, ni bydd Duw (medd E. E.) mor anghyfiawn a'u cospi, gan fod ei Fab wedi dyoddef y gosp ddyledus am eu trosedd!!! Henffych well blant yr arfaeth! Nid rhyfedd eich bod yn gallu canu mor beraidd:

'Os etholedig yn yr arfaeth, etholedig yn mhob trafferth;
Os etholedig cyn fy ngeni, etholedig wedi meddwi.'"—(tu dal, 35.)

Dyma y llyfr ag y bostid am dano ei fod wedi rhoddi dyrnod marwol i Galviniaeth! Yr ydym yn addef fod ynddo rai pethau gwell na'r rhai hyn. Y mae, weithiau, yn cyfarfod ymresymiadau Mr. Evans yn dra deheuig, ac yn rhoddi codwm hollol deg iddo: ond y mae ei ddull cyffredin mor ymhongar a bostfawr a haerllug, nes peri diraddiad dirfawr arno fel dadleuwr, ac yn profi nad ydoedd, er ei holl rodres, erioed wedi deall yr hyn yr ymosodai yn ei erbyn, a llawer llai deall ystyr y datguddiad dwyfol ar y pynciau sydd ganddo dan sylw. Y mae y llyfr wedi ein siomi ni yn ddirfawr, ac nis gallwn lai nag edrych arno fel un o'r cyfansoddiadau mwyaf annheg a ddygwyd allan o'r Wasg Gymreig yn ystod yr holl ddadleuon a ffynasant yn ein gwlad ar y pynciau hyn: tra, yr un pryd, y caniatawn yn rhwydd y gallai ymddangos i ryw fath o feddyliau Wesleyaidd yn un o nodwedd tra gwahanol. Yn ein bryd ni, y mae ei dôn daëogaidd, drahaus, yn ei daflu allan o gylch moesgarwch cyffredin beirniadaeth, ac yn peri iddo ymddangos yn debycach i ryw fuli ymladdgar am gwffio â phawb, ac yn tybied ei hunan yn alluog i guro a maeddu pwy bynnag a anturiai allan i'w gyfarfod. Ond druan o hono! Y mae yn treulio ei holl nerth i guro yr awyr, heb wneyd nemawr niwed i neb ond iddo ei hunan. Yr ydym yn parchu ei zêl yn erbyn yr hyn a olygid ganddo yn gyfeiliornadau mor gableddus, ond o'n calon yn ffieiddio ei ysbryd; ac yn gresynu braidd dros Arminiaeth, yn Nghymru, ei bod wedi ei gadael heb ond y fath annhegwch i'w hamddiffyn.

Yn lle cyhoeddi un math o Atebiad uniongyrchol i'r llyfr hwn, fe ddygwyd allan yn lled fuan,—"Amddiffyniad yr Athrawiaeth Ysgrythyrol o Brynedigaeth Neillduol, yn cael ei gosod allan, a'i chadarnhau,