Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/347

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn Pedair o Bregethau, a bregethwyd yn Lime-street, Llundain, gan y Parch. John Hurrion, Un o Weinidogion yr Ymneillduwyr. Ynghyd a Ber Hanes o Fywyd yr Awdwr. Wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan Evan Evans. Trefriw; Argraffwyd gan J. Jones. 1820." Mae y pregethau hyn yn adnabyddus fel cyfansoddiadau tra gorchestol, ar yr ochr i'r ddadl a gymmerir gan yr Awdwr ynddynt. Y mae yn amcanu myned i mewn i'r pwnc gydâ phwyll a gofal a manylder mawr; ac y mae yn ymresymu yn hollol foneddigaidd a christionogol, heb arfer un gair isel na gwael am y rhai a wrthwynebir ganddo. Ar annogaeth y Parch. John Elias yr ymgymmerodd Mr. Evan Evans â chyfieithu ac â chyhoeddi y pregethau hyn, yn hytrach na dwyn allan Atebiad o'i eiddo ei hunan i lyfr Mr. Samuel Davies; ac felly fe ysgrifenwyd Rhagymadrodd byr iddynt gan Mr. Elias. Yr oedd y Rhagymadrodd hwnw yn amlwg yn cael ei fwriadu nid yn unig yn erbyn y syniadau Arminaidd ar Brynedigaeth, a amddiffynid gan y Wesleyaid, ond hefyd, ac yn arbenig, yn erbyn y golygiadau eang ar Ddibenion Marwolaeth Crist, y dadleuid drostynt erbyn hyn yn Nghymru gan liaws a gydnabyddid yn Galviniaid: ac y mae yr awdwr ynddo, yn ol ei arfer, yn defnyddio iaith gref, mewn tôn braidd anffaeledig, i osod allan ei olygiadau ei hunan ar y pwnc, ac er condemnio y rhai a wahaniaethent oddiwrtho. Anaml braidd y gwelsom, mewn can leied cylch, awgrymiadau mwy anfrawdol nag a geir yma: ac nid ydym yn synu iddo, trwy y Rhagymadrodd hwn, lwyddo mwy i ddolurio teimladau dynion da o olygiadau gwahanol, nag a wnaeth i gadarnhau ereill yn, heb sôn am ennill neb o'r newydd drosodd, i'w syniadau ei hun.

Yn Atebiad i'r Rhagymadrodd hwn, yn mhen ychydig fisoedd, fe gyhoeddwyd,—"Llythyr at y Parchedig John Elias; yn cynnwys sylwiadau ar ei Ragymadrodd i Bregethau y diweddar Mr. Hurrion, ar Brynedigaeth. Gan John Griffith, o Ddimbych. Dolgellau, argraphwyd dros yr awdwr, gan R. Jones."—Mae y llythyr wedi ei ddyddio, "Ionawr 12, 1821;" a'i Ragymadrodd, "Chwefror 28, 1821." Pregethwr cynnorthwyol gyda'r Wesleyaid, os nad ydym yn camgymmeryd, oedd y "John Griffith" hwn; ac un, y mae yn amlwg, yn teimlo yn ddwfn ac yn ddwys dros anrhydedd y Cyfundeb y perthynai iddo. Ond nid ydyw y "Llythyr" hwn o'i eiddo prin yn teilyngu unrhyw sylw. Nid ydyw ond ymgais eiddilwch a haerllugrwydd i ymgodi o'r dinodedd priodol iddynt eu hunain, trwy ymosod, mewn