Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/348

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

digywilydd—dra, ar wr cyhoeddus a phoblogaidd. Yr oedd yr awdwr wedi anfon y "Llythyr" yn flaenorol at Mr. Elias mewn ysgrifen; gan ddysgwyl, neu broffesu dysgwyl, y buasai yntau yn anfon atebiad iddo yn ddioed, yn yr hwn y byddai naill ai yn profi ai yn galw yn ol yr hyn a ddywedasai yn y Rhagymadrodd i Bregethau Mr. Hurrion, a chan ei fygwth, os na wnai hyny, y byddai iddo gyhoeddi y "Llythyr." A chan ei fod wedi dysgwyl dros fis o amser heb gael un atebiad, fe ddaeth i'r penderfyniad fod Mr. Elias "yn analluog" i gadarnhan ei ddywediadau, ac yn anfoddlon" i'w "galw yn ol." Ni feddyliodd y creadur unwaith fod yn bosibl i Mr. Elias, nac i neb arall, dybied nad oedd efe yn wrthddrych digon pwysig i gymmeryd un sylw o hono, ac i beidio arswydo dim rhagddo! Y mae rhai o rywogaeth y "John Griffith" hwn heb farw eto.

Yn mhen ychydig amser, er ateb hwn, fe gyhoeddwyd—" Llythyr yn cynnwys Amddiffyniad i'r Parch. John Elias, yn wyneb camgyhuddiadau Mr. John Griffiths, o Ddinbych; gyda Sylwadau ar ei Lythyr ef. Gan Edward Roberts o'r Berthen Gron. Caerlleon: Argraffwyd gan M. Monk. 1821." Yr oedd y gwr hwn, cyn ei ymuniad â'r Methodistiaid, wedi bod yn aelod, os nad yn bregethwr, gyda'r Bedyddwyr. Paham yr ymadawodd â hwynt sydd anhysbys i ni. Tra gyda'r Methodistiaid, yr oedd yn adnabyddus fel uchel—Galvin tra eithafol, a bu yn achos llawer o flinder i'n cyfeillion yn Sir Fflint. Byddai yn wastadol mewn rhyw gynhwrf neu gilydd. O'r diwedd, mewn Cymdeithasfa yn y Wyddgrug, yn mis Mawrth, 1836, fe'i diarddelwyd. Yr hyn a achlysurodd hyny oedd rhyw syniadau cyfeiliornus a gyhoeddesid ganddo mewn Tracthawd ar "Wrthddrych Addoliad:" yn yr hwn y dadleuai, "Nad ydyw Crist i'w addoli fel Person Dwyfol;" "Nad ydyw i'w addoli fel Duw—ddyn;" ac "Nad ydyw i'w addoli fel Cyfryngwr." Wedi ei ddiarddeliad, dychwelodd at ryw gymdeithas o Fedyddwyr oedd yn ei gymmydogaeth. Nid ydym yn gwybod a barhäodd gyda hwynt hyd ei farwolaeth ai peidio. Yr oedd yn wr o gryn allu, mwy o lawer na'r cyffredin, ac ysgrifenai yn fynych i hen "Oleuad Cymru," ar y pynciau y dadleuid yn eu cylch yn y wlad. Ond yr oedd yn ymgais bob amser at hollti y blewyn, ac at wneyd rhaniad lle nad oedd yr un rhaniad i fod; gan ymdrechu ystumio gwirionedd yr efengyl tu fewn i derfynau cyfyng ei gyfundraeth ei hunan, yr hon oedd yn llawer iawn rhy fechan i'w gynnwys. Mae y