Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/349

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Llythyr" hwn o'i eiddo yn ddernyn tra digrifol. Nis gwyddom pa fodd yr oedd yn "taro" darllenwyr yr oes hono: ond yn sicr y mae yn ymddangos i ni yn awr, mai prin byth y gellid cael gafael ar ddim. a fyddai yn fwy effeithiol er ymlid ymaith y pruddglwyf, oddiar ryw frawd a fyddai yn ddarostyngedig iddo, na darllen ychydig ar rai rhanau o hono. Ond, mwy nag yn "Llythyr John Griffith," nid oes ynddo un pelydr o oleuni newydd ar y pynciau mewn dadl.

Cyn pen nemawr ar ol hyn, fe gyhoeddwyd,—" Ymddiffynwr y Gwir neu Eglur olygiad ar Athrawiaeth y Calfiniaid a'r Arminiaid: ynghyd â Sylwadau Cyffredinol ar lyfr y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair: ac yn neillduol ar y Chweched Bennod, yn yr hon y ceisia yr Awdwr ddangos y gwahaniaeth rhwng Calfiniaeth ac Arminiaeth. Gan W. Evans, gweinidog Machynlleth. Dolgellau, Argraphwyd, dros yr Awdwr, gan R. Jones. 1822."—Gweinidog y Wesleyaid yn Nghylchdaith Machynlleth, oedd yr Awdwr ar y pryd. Yr oedd yn frodor o Fangor, lle y ganwyd ef Hydref 25, 1779. Ymunodd â chymdeithas y Wesleyaid yn Nghaernarfon yn 1802. Dechreuodd bregethu yn 1805; ac yn 1806, fe'i derbyniwyd i'r weinidogaeth deithiol. Parhäodd i wasanaethu y cyfundeb y perthynai iddo gydâ ffyddlondeb annghyffredin, hyd ei farwolaeth, Gorphenaf 30, 1854. Yr oedd yn ŵr call a phwyllog a hynaws; yn bregethwr sylweddol a buddiol, er nad oedd o ddoniau poblogaidd; ac yn Wesleyad trwyadl a diledryw. Yn hyny, dybygem ni, yr oedd ei wendid mwyaf. Yr oedd yn edrych ar bob peth oddiar safle Wesleyaidd; yn troi yn hollol mewn cylchoedd Wesleyaidd; yn cyfyngu ei ddarlleniad braidd yn gwbl i lyfrau a chyhoeddiadau Wesleyaidd; gan olygu y Wesleyaid, fel y dywed yn Rhagymadrodd y llyfryn hwn, y "Corph o bobl y mae Duw yn eu harddel yn benaf trwy y byd." Amddiffyniad iddynt hwy, yn erbyn yr hyn a olygai efe yn gamddarluniad gan Mr. Roberts ar eu hathrawiaeth, ydyw y llyfr hwn. Yr oedd Mr. Roberts, yn y bennod o'i lyfr yr ymosodir yn awr yn ei herbyn, er amddiffyniad iddo ei hunan yn wyneb rhyw rai a'i rhestrent gyda'r Arminiaid, oblegyd y golygiadau y dadleuai drostynt ynnghylch Iawn Crist a'r Prynedigaeth, wedi dangos, yn yr ysbryd mwyaf Cristionogaidd, yr hyn a ystyrid ganddo ef fel y gwahaniaeth hanfodol rhwng Calviniaeth ac Arminiaeth; ac wedi olrhain y gwahaniaeth hwnw i'r syniad Calvinaidd, mai ffrwyth dylanwad dwyfol, ac nid ewyllys ddynol, ydyw y rhagor-