Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parch. John Williams, yr hwn a ystyrid ganddo y pryd hyny fel y pregethwr mwyaf ar yr holl ddaear. Ceisiai ei ddynwared yn ei ystum, ei lais, ei floedd, ei besychiad,—pob peth fel efe. Byddai yn llawen iawn pan y tybiai ei fod yn llwyddo yn hynod i'w efelychu. Unwaith, pan wedi cael cryn hwyl i lefaru, fe ddywedodd, ar ddiwedd y bregeth, "O'n'd ydwy' i yn debyg iawn i fy ewythr? Yr ydwy' i yn debycach iddo fo na fo'i hunan."

Byddai pob peth hynod a welai neu a glywai yn troi yn destyn pregeth iddo, megis pregeth yn y capel, yn enwedig ar ddydd gwaith; rhyw sylw ag a fyddai yn ei daro ef yn newydd ar rai o wirioneddau y Bibl; claddedigaeth yn y gymmydogaeth; ystorm o fellt a tharanau; neu unrhyw orchwyl yn y tŷ neu allan ag a dynai ei sylw ef yn fwy na chyffredin. Yn fynych iawn, ar y dechreu, fe gymerai ei destynau o "Hyfforddwr " Mr. Charles, megis "Pa sawl rhan sydd mewn dyn ? Dwy ran, sef corph ac enaid." "Dau ben fydd yn fy mhregeth i heddyw; yn gyntaf, am y corph. Yn ail, am yr enaid. Yn gyntaf, y corph. O ba beth y creodd Duw gorph dyn? O bridd y ddaear.' O! rhyfedd! Ydych chwi ddim yn ei weled o'n rhyfedd? Corph wedi ei wneyd o bridd. Pridd yn gweled, pridd yn clywed, pridd yn siarad, pridd yn cerdded, a phridd yn sefyll ar ei ben." Yr ydoedd efe heb ddysgu y gamp hono eto, ond yr oedd yno ryw fachgen yn y gymmydogaeth oedd yn feistr rhagorol arni, ac yr oedd hyny yn ei daro ef fel gallu rhyfedd iawn. Ond i fyned yn mlaen â'i bregeth, "Onid ydyw Duw yn un mawr, gwneyd peth mor gywrain o bridd, gwneyd peth mor hardd o bridd; gwneyd peth mor gryf o bridd; gwneyd peth byw o bridd. Yn ail, Am yr enaid. Pa fodd y creodd Duw enaid dyn? Duw a anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw.' Ond pwy all ddyweyd beth ydyw yr enaid? Beth all o fod? pwy wyr ?" Byddai golwg syn a dwys arno wrth geisio darlunio yr enaid. "Hwn sydd yn rhyfedd; hwn sydd yn bwysig; hwn sydd yn werthfawr. Nid yw y corph ond câs ("case") am dan hwn. Hwn sydd i barhau yn hir. Y mae hwn i barhau byth. 'Daiff hwn ddim i'r bedd. 'Wnaiff tân uffern ddim llosgi hwn o fod. Fe fydd hwn yn bod cyhyd a Duw ei hunan." Yr oedd y bregeth hon yn cael ei thraddodi yn fynych ganddo, ac weithiau gydag effeithiau cryfion ar feddyliau ei wrandawyr ieuanc, ac ambell un hefyd mewn oedran a fyddai yn y clyw. Ryw bryd yr oeddent yn lladd buwch at wasanaeth