Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/350

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth sydd yn y credadyn ar yr annghredadyn. Yn awr y mae Mr. Evans yn dadleu nad ydyw y darluniad hwn yn gywir; ac yn dwyn yn mlaen, yn benderfynol a difloesgni. y cyhuddiadau cyffredin gan Arminiaid yn erbyn Calviniaeth,—ei bod yn cynnwys rhagordeiniad tragywyddol ar ryw rai i iachawdwriaeth, ac ar y lleill i golledigaeth, heb un rhagolygiad, ac yn gwbl annibynol, ar eu cymeriadau—eu ffydd na'u hannghrediniaeth, eu sancteiddrwydd na'u halogedigaeth. Ond, tra yn camddarlunio Calviniaeth fel hyn, y mae yn anewyllysgar iawn i gydnabod yr egwyddor fawr Arminaidd, yn yr hon, yn ol Mr. Roberts, y mae y gwahaniaeth hanfodol rhwng y ddwy Gyfundraeth yn gorwedd, egwyddor, fel y gwelsom (tu dal. 317), a gydnabyddid yn ddifloesgni gan Mr. Owen Davies, ac heb yr hon nad yw y gwahaniaeth rhyngddi a Chalviniaeth prin yn werth dadleu yn ei gylch. Ond, yn y diwedd, wedi pob amcan ac ymdrech o'i eiddo i eglurhau, ac i amddiffyn Arminiaeth yn wyneb y cyhuddiad a ddygid i'w herbyn, nid yw, wedi y cwbl, dybygem ni, ond yn cadarnhau o ran sylwedd yr hyn a haerid gan Mr. Roberts. Sylwer ar y dyfyniadau canlynol:

"Dygasoch gam-dystiolaeth yn ein herbyn yma, yn y geiriau hyn, Mae yr Arminiaid yn dal mai hwy eu hunain sydd yn gwneuthur y rhagoriaeth. Nid yw yr Arminiaid yn credu bod yn bosibl y gall neb ufuddhau na chredu yn y Mab eu hunain, heb gynnorthwy gras Duw; 'oblegyd hebddo ef nis gallwn ni wneuthur dim,' ond trwyddo ef nyni a allwn wneuthur pob peth: 'Nid o herwydd ein bod yn ddigonol o honom ein hunain i feddwl dim megis o honom ein hunain; eithr ein digonedd ni sydd o Dduw," Ioan xv. 5; 2 Cor. iii. 5. Yr ydym ni yn canfod rhagoriaeth mawr rhwng dyledswydd dyn ac addewid Duw (er eu bod trwy Grist yn cael eu cysylltu yn nhrefn Duw yn achubiaeth dyn, am fod dyn yn greadur rhesymol, y mae yn greadur rhydd, ac am ei fod yn greadur rhydd, y mae yn gyfrifol, a chan ei fod yn gyfrifol, nid yw yn gweithredu o angenrhaid) yn gymaint a bod gan Dduw hawl gyfiawn yn nghyflawniad dyledswydd dyn, ond nid oes gan ddyn un gradd o hawl (o'i ran ei hun) i un o addewidion Duw. Oddiwrth hyn golygwn, fod rhai dynion yn esgeuluso y moddion a'u dyledswydd, a chan nad yw y cyfryw yn rhodio yn llwybr addewid Duw, nis gallant fel hyn byth fwynhau y fendith. A golygwn fod eraill yn gwneud eu dyledswydd, er nad yw eu gwaith ynddo ei hun ond marw a dihaeddiant hollawl, er hyny, trwy ddaioni trefn rhad ras, mae yr addewid o