Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/351

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drugaredd yn dyfod i'w cyrhaedd, a thrwy haeddiant Iesu Grist, y mae'r fendith yn dyfod i'w meddiant: fel hyn y mae Duw yn dewis gwneud y rhagoriaeth; fel y byddo i'r rhai sydd yn credu yn y Mab i ragori ar eraill.

"Ymhellach, mae'r Arminiaid yn dal mai Duw yw yr achos cyntaf o bob gweithred dda, ac nad yw'r dyn, er dewis o hono yr hyn sydd dda, ufuddhau i'w alwad, a chredu yn ei Fab Iesu, &c., ond ail achos, am hyny mae yr holl ogoniant yn gyfiawn i Dduw oddiwrth y dyn yn ei achubiaeth, oblegyd er i Dduw ei greu yn greadur rhydd, i allu dewis neu wrthod, eto ni buasai modd iddo (ar ol y cwymp) ddewis y da, oni bai fod y Jehofa bendigedig o'i gariad rhad wedi trefnu llwybr addas, yn lawn y Mab, i'r dyn allu dyfod yn feddiannol ar yr hyn sydd dda, ar yr ammod iddo wneud derbyniad o hono a phlygu i'w lywodraeth; ni allasai y dyn ddyfod byth yn well ei gyflwr na Satan, ac ni buasai modd iddo byth gredu yn y Mab, pe na buasai i'r Tad roddi ei anwyl Fab, ynghyd a'i Ysbryd Glan trwy'r efengyl (neu ryw foddion arall) i weithredu yn nerthol arno ef, ond nid i ddiddymu rhyddid ei ewyllys. Mae hyn i'w weled, trwy y bydd i Dduw yn nydd mawr y cyfrif, ganmol daioni a ffyddlondeb y cadwedigion, tra y bydd y cadwedigion am byth yn clodfori, ac megis ar dân o gariad yn canmol ffynhonell eu hiachawdwriaeth, sef y cariad a redodd atynt hwy trwy'r gwaed; ac ni anghofia Duw eu canmol hwythau am eu ffyddlondeb yn nghyflawniad yr ail achos.

"Ac mewn perthynas i'r rhai fydd yn ol, dywedaf mai dyn sydd yn gwneud y rhagoriaeth, am mai efe yw'r achos cyntaf o'i golledigaeth, gan ei fod yn meddu ar ewyllys rydd; onide nis gallai neb, trwy reol union, ddangos mai y dyn ei hun yw'r achos o'i drueni, a bod ei golledigaeth o hono ei hun, am hyny bod y bai a'r gwarth tragywyddol i'r dyn, fel yr achos cyntaf; ac nis gellir rhoi na bai na gwarth byth ar Dduw, ei arfaeth, na'i ewyllys, fel mae natur Calfiniaeth i wneyd! Am hyny yr ydym yn credu mai Duw, fel y mae yn achos cyntaf, sy'n gwneuthur y rhai sy'n credu yn y Mab i ragori ar eraill a'r dyn, trwy ras Duw, sydd yn gwrando, ufuddhau, a chredu yn y Mab, yw'r ail achos o'r rhagoriaeth. Ond yn ol athrawiaeth y Calfiniaid (o bob rhyw) un achos sydd i bob peth, bydded dda neu ddrwg, a hwnw yw Duw yn ei arfaeth dragywyddol (tu dal. 35, 36, 87.)

Yn awr nid oes neb yn dadleu, ac nid oedd Mr. Roberts yn haeru,