Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/352

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yr Arminiaid yn credu bod yn bosibl y gall neb ufuddhau na chredu yn y Mab eu hunain, heb gynnorthwy gras Duw." I'r gwrthwyneb, fe addefir eu bod yn caniatau gras cyffredinol, ac mai yn nerth y gras hwnw y mae pwy bynnag sydd yn credu yn Nghrist yn gwneuthur hyny. Ond y ddadl ydyw, yn gymmaint ag nad ydyw pawb yn credu, neu "fod rhai yn esgeuluso y moddion a'u dyledswydd," ac felly heb "byth fwynhau y fendith," pryd y mae "ereill yn gwneud eu dyledswydd," "yn dewis yr hyn sydd dda, ufuddhau i alwad Duw, a chredu yn ei Fab Iesu,"—pwy na pa beth sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth? Y mae y ddwy blaid yn addef mai y dyn ei hunan ydyw achos yr anghrediniaeth, pa un bynnag a wna ai anufuddhau yn wyneb y gras cyffredinol, yn ol Arminiaeth, ai ynte yn wyneb y galluoedd naturiol sydd ganddo fel creadur, y manteision crefyddol y byddo wedi ei anrhydeddu á hwynt, ac ymrysoniadau Ysbryd Duw a'i feddwl drwyddynt, yn ol Calviniaeth; ond paham y mae y naill yn iawn ddefnyddio yr hyn y mae y llall yn gamddefnyddio? pwy sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth rhyngddo ef ac arall? "Dyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth ac nid Duw," meddai Mr. Owen Davies: "Duw," medd Mr. Evans, "fel y mae yn achos cyntaf," ac "o'i gariad rhad wedi trefnu llwybr addas, yn Iawn y Mab, i'r dyn allu dyfod yn feddiannol ar yr hyn sydd dda, ar yr ammod iddo wneud derbyniad o hono a phlygu i'w lywodraeth,"—"sy'n gwneuthur y rhai sy'n credu yn y Mab i ragori ar eraill a'r dyn, trwy ras Duw, sydd yn gwrando, ufuddhau, a chredu yn y Mab, yw'r ail achos o'r rhagoriaeth." Mewn geiriau ereill, yn y diwedd, "Dyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth ac nid Duw."

Ni chymmerodd Mr. Roberts un sylw o'r ymosodiad hwn arno. Mae yn bosibl ei fod yn tybied mai peth ofer hollola fuasai iddo ddechreu dadl âg un a ymddangosai yn analluog i ganfod yr hyn oedd iddo ef mor eglur, ac ar yr un pryd yn un mor annheg a digywilydd âg i haeru fod Calviniaid o bob math, uchel ac isel, hen a diweddar, yn dysgu mai "un achos sydd i bob peth, bydded dda neu ddrwg, a hwnw vw Duw yn ei arfaeth dragywyddol."

Nid ydym yn gwybod am yr un llyfr neillduol ar ol hwn, ar y naill du na'r llall i'r ddadl, wedi ei ddwyn allan am rai blynyddoedd, er ei bod yn parhau yn gref yn y wlad, a'i bod, yn y naill ran neu y llall o honi, yn cael ei dwyn yn mlaen, yn achlysurol, gyda llawer o fywiog-