Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/353

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd, yn yr amrywiol gyhoeddiadau misol oeddent erbyn hyn yn gyffredin yn y dywysogaeth. Nid oedd odid fis yn myned heibio na chyffyrddid â rhyw ran o honi yn yr "Eurgrawn Wesleyaidd;" ac yr oedd "Seren Gomer," a "Goleuad Cymru," yn awr ac eilwaith, yn cynnwys traethodau o'r un nodwedd. Ond y "Dysgedydd Crefyddol" a fu yn arbenig yn faes ymryson ar y pynciau hyn; ac, eto, ni ddylem ddywedyd "ymryson," oblegyd, ar y cwbl, dadleu têg a brawdol ydoedd. Achlysurwyd y ddadl gan lythyr a gyhoeddwyd yn y Rhifyn am Chwefror, 1824 (tu dal. 50, 51), gan ohebydd, a alwai ei hunan, "Sion y Wesley;" un oedd yn cartrefu y pryd hyny yn Nolgelleu, ond sydd, os nad ydym yn camgymmeryd, er ys rhai blynyddoedd bellach, wedi ymadael â'r Wesleyaid, ac yn weinidog yn yr Eglwys Sefydledig. Yn y llythyr hwnw, yr hwn yn amlwg a fwriedid er codi dadl, y mae yn cymmeryd arno briodoli i'w "ddeall plentynaidd," yr anhawsdra a deimlid ganddo i ganfod cysondeb rhyw syniadau, a dybid ganddo ef, a gynnwysid yn nysgeidiaeth y Calviniaid. Yn y rhifyn am Ebrill (tu dal. 113), daeth W. L., T—l—ch,— Mr. William Lewis, hen gymeriad hynod, oedd mewn cysylltiad â'r Annibynwyr yn Nhrelech, Sir Gaerfyrddin,—allan gyda "Sylwad ar ofyniad Sion y Wesley;" yn yr hwn y mae yn cyfeirio at olygiadau y Parch. John Brown, o Haddington, a'r Parch. Matthew Henry, y rhai, er addef nas gall dyn diailanedig gyflawni yr hyn sydd iawn oddiar egwyddor sanctaidd, eto a ddysgant y gall gyflawni rhyw bethau, megis ymarfer âg ordinhadau gras; ac "am y neb a fyddo yn parhaus ymarfer â'r ordinhadau gydag ymdrech, yr ymwêl yr Ysbryd Glan â'r cyfryw yn ei oruchwyliaethau grasol, trwy gyfnewid y galon a phlanu anian o ras yn ei enaid." Yn y rhifyn am Gorphenaf (tu dal. 199—202), daeth y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, allan gyda thraethawd ar "Allu Naturiol a Moesol," yn cynnwys sylwadau yn benaf ar Ysgrif W. L., ond yn amlwg yn bwriadu cyfarfod hefyd ynddynt â gofyniadau Siôn y Wesley. Yn y traethawd hwn, y mae Mr. Roberts yn dadleu fod gallu naturiol hollol gan ddyn fel pechadur er cyflawni pa beth bynag sydd ddyledus arno, ac nad yw ei anallu yn ddim amgen na diffyg "ewyllys, neu duedd, neu ogwyddiad, i wneuthur ei holl ddyledswydd, ac i ryngu bodd Duw." Nid ydyw Mr. Roberts yma yn dadleu dros ddim, o ran egwyddor, nad ydyw wirionedd; ond nid yw yn cymmeryd i mewn yr holl wirionedd. Nid yw yn talu digon o sylw i'r