Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/354

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwahaniaeth sydd yn ngwrthwynebiad y galon lygredig i'r ymarferiad â ffurf allanol ordinhad grefyddol, i'r gwrthwynebiad sydd ynddi i'w hysbrydolrwydd a'i sancteiddrwydd hi; ac nid yw yn ymddangos fel un wedi meddwl erioed fod cywirdeb yn yr ymarferiad â'r ffurf yn foddion, o ordeiniad dwyfol, i ddwyn dyn yn feddiannol ar yr ysbryd. Mewn gwirionedd, y mae yn dadleu mai yr un peth fyddai cymhell dyn diailanedig, a fyddai yn ymholi yn nghylch iachawdwriaeth ei enaid, i ymarfer â rhinweddau cyffredin, megis cymmwynasgarwch, elusengarwch, haelioni, geirwiredd, diweirdeb, &c., a'i gymhell i ymarfer a'r ordinhadau a sefydlwyd gan y Duw mawr ei hunan yn foddion ailenedigaeth!

Yn y rhifyn am Awst (tu dal. 236—239), daeth Siôn y Wesley allan â'r Gwir yn erbyn y Byd, sef Sylwadau ar eiddo W. L." Yn yr ysgrif hon, y mae wedi annghofio yn gwbl ei "ddeall plentynaidd," ac yn dadleu yn eon a phenderfynol yn mhlaid ei olygiadau Arminaidd; fod etholedigaeth ac iachawdwriaeth dyn yn hollol ammodol, a bod gan ddyn allu, yn yr ystyr Arminaidd o'r gair, i gyflawni yr ammodau. Ond y mae yn gŵyr-droi yn ddirfawr y syniadau Calvinaidd ar y pynciau dan sylw, er ceisio eu dangos yn afresymol ac yn anysgrythyrol.

Yn y rhifyn am Hydref (tu dal. 303–307), ymddangosodd dau lythyr yn erbyn Siôn y Wesley: un gan Mr. Roberts, Llanbrynmair, ac un gan ohebydd a'i galwai ei hunan, "Ioan Calfin." Mae Mr. Roberts yn syrthio ar y Drychfeddwl, y rhoddasai arbenigrwydd arno yn y traethodyn y cyfeiriasom ato eisoes (tu dal. 327), a gyhoeddasai yn y flwyddyn 1807, a'r drychfeddwl y rhoddasid pwys arno ganddo drachefn, yn y bennod o'r "Galwad Difrifol," ag yr ysgrifenasai Mr. William Evans yn ei herbyn; ac y mae yn ymdrechu cael Siôn y Wesley i gyfarfyddiad ystyriol â'r ymofyniad,—"O ba le y mae fod dynion da mewn gwell cyflwr na dynion drwg, a pha un ai i Dduw ai ynte iddynt eu hunain y mae y rhai da i ddiolch am eu rhagoriaeth." Y mae "Ioan Calfin," mewn llythyr tra galluog, yn sefyll yn benaf ar allu naturiol dyn fel creadur, yn ei berthynas â'i Greawdwr, fel sylfaen ei gyfrifoldeb yn wyneb yr efengyl yn gystal a'r ddeddf; ac y mae yn gwneyd amryw sylwadau tra miniog ac effeithiol ar ras cyffredinol yr Arminiaid.

Yn y rhifyn am Tachwedd (tu dal. 334—337), y mae Sion y Wesley yn dyfod allan drachefn, â "Llythyr at y Parch. J. Roberts, Llan-