Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/355

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brynmair." Y mae yn hwn yn ymesgusodi am beidio gwneyd sylw o ysgrif Ioan Calfin, a chydâ golwg ar y pwnc a wesgid arno gan Mr. Roberts, y mae yn ddifloesgni yn ateb "yn gadarnhäol, yn ngeiriau y gwas hwnw i Grist, Mr. O. Davies, Mai dyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth, ac nid Duw." Nid yw gweddill y llythyr, gan mwyaf, ond ymdrech i ddangos nad yw yr athrawiaeth hon yn gwneuthur dyn yn achubydd iddo ei hunan, ac felly nad yw yn annghyson â gogoniant gras yn ei achubiaeth. Yn y rhifyn am Ragfyr (tu dal. 368, 369), y mae Mr. Roberts allan drachefn, â "Llythyr at Sion y Wesley," yn yr hwn y mae yn dychwelyd at ei hen ddadl, ac yn honi nad oes fodd cysoni y syniad, mai dyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth, ac nid Duw," âg unrhyw athrawiaeth efengylaidd; ac y rhaid fod y sawl a hona hyny yn fwy anefengylaidd nag hyd yn nod y Pharisead gynt, yr hwn a ddiolchai i Dduw nad oedd efe fel dynion ereill. Ac, os Duw sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth, fod y ddadl ar ben; oblegyd mai "Gwreiddyn y ddadl yn nghylch etholedigaeth yw, pa un ai Duw ai dyn yw yr achubydd."

Aeth y ddadl rhagddi i'r flwyddyn ganlynol gyda bywiogrwydd mawr. Yn y rhifyn am Ionawr, 1825 (tu dal. 17—21), fe gyhoeddwyd "Annerchiad i Blant Sion y Wesley," gan D. S. Davies, sef y Parch. David Simon Davies, Gweinidog yr Annibynwyr Cymreig yn Llundain; yr hwn wedi hyny a fu farw, Gorphenaf 18, 1826, pan nad oedd ond un-mlwydd-ar-bymtheg-ar-hugain o oedran, wedi bod yn llafurio yn ffyddlawn yn y weinidogaeth, yn y Brif—ddinas, am bymtheg mlynedd. Yr oedd y gwr hwn yn un tra galluog; yn efrydydd manwl ac ymroddedig, ac yn ddadleuwr têg a medrus iawn. Yr oedd yn gallu myned i mewn yn dra naturiol i hanfod y gwahaniaeth rhwng y pleidiau ar y testynau mewn dadl; yn nodedig o graff i ganfod gwendid dadleuon ac ymresymiadau ei wrthwynebwr; ac yn hynod o wyliadwrus rhag rhoddi yn anfwriadol i'w wrthwynebwr un fantais arno ei hunan, trwy unrhyw annghysonedd ynddo ag ef ei hun. Mae y llythyr hwn yn cynnwys amddiffyniad tra galluog i'r syniad Calvinaidd am ansawdd calon pechadur d-iailanedig; am unig achos effeithiol cyfnewidiad ar y fath galon; ac er dangos nad yw y gras penarglwyddiaethol, sydd yn effeithio cyfnewidiad felly ar rai, yn cynnwys dim cam âg ereill.

Yn y rhifyn am Chwefror (tu dal. 48—53), fe ddaeth Sion y Wesley