Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/356

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan drachefn, â "Llythyr at y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, mewn atebiad i'r eiddo ef; gydâ Sylwadau ar Annerchiad D. S. Davies." Ei amcan mawr, yn y Llythyr at Mr. Roberts, ydyw ceisio dangos cysondeb yr hyn a lonid ganddo, "Mai dyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth ac nid Duw, yn rhagoriaeth y credadyn ar yr annghredadyn, â'r gwirionedd fod clod y gwahaniaeth i'w briodoli i Dduw. Ond y mae yn amlwg ei fod, yn yr holl egluriadau, a ddefnyddir ganddo, heb ganfod cnewyllyn y ddadl, ac wrth son am un yn gwneyd a'r llall heb wneyd, heb geisio ymgyfrinachu a'r dirgelwch, paham yr oedd un yn gwneyd pan oedd y llall yn peidio. Yn ei "Sylwadau ar Annerchiad D. S. Davies," y mae yn yr un tywyllwch ac nis gall weled, os Duw sydd yn llewyrchu i galonau rhai, fel ag i roddi iddynt hwy oleuni, paham nad, mai ei fod heb lewyrchu i galonau eraill ydyw yr achos o'u bod hwy yn y tywyllwch. Nid oedd ei gyfundraeth erioed wedi dysgu iddo seilio rhwymedigaeth dyn i'w ddyledswydd ar ei alluoedd a'i fanteision fel creadur, ac ar yr un pryd i olrhain y cyflawniad o honi ganddo, o'r gogwyddiad cyntaf hyd y perffeithiad hollol, yn gyfangwbl i ras penarglwyddiaethol.

Yn y rhifyn am Mawrth (tu dal. 75—77), ymddangosodd llythyr drachefn, "Mewn sylwadau ar eiddo Sion y Wesley," gan ohebydd newydd, yr hwn a'i galwai ei hunan, Carwr Gwirionedd. Amcan y llythyr hwn ydyw adolygu ychydig ar y ddadl, a nodi allan rai o'r beiau, yn mryd yr ysgrifenydd, a berthynent i Sion y Wesley fel dadleuwr, ynnghyda gwendid rhai o'r prif resymau a ddefnyddid ganddo.

Yn y rhifyn am Ebrill, ymddangosodd tri o lythyrau ar y ddadl; un yn "Atebiad i Lythyr Sion y Wesley" (tudal. 106—114), gan Mr. D. S. Davies; un arall,—" Annerchiad at Ymofynwyr am y Gwirionedd, yn cynnwys Sylwadau ar rai o Ddywediadau Sion y Wesley" (tu dal. 114—117), gan Mr. Roberts, Llanbrynmair; ac un arall, gan Sion y Wesley ei hunan, yn cynnwys "Sylwadau ar eiddo Carwr Gwirionedd" (tu dal. 117—122). Mae llythyr Mr. Davies yn sicr yn un o'r darnau galluocaf a ymddangosodd yn holl ystod y dadleuon hyn. Y mae yn crynhoi y ddadl i ychydig benau, ac yn gafael yn gadarn yn nghalon y pwnc. Mae yn cynnwys rhai syniadau nas gallwn ni yn gwbl gytuno á hwynt, yn enwedig pan y mae yn gwadu gweithrediadau Ysbryd Duw ar feddyliau rhai y byddo yn eu gadael drachefn, oblegyd eu hanufudd—dod iddo; ond a'i gymmeryd gyda'i gilydd, anaml iawn