Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/357

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfarfuasom a dim mwy cyfaddas i roddi terfyn hollol ar y ddadl rhwng Calviniaid ac Arminiaid. Mae Mr. Roberts, yn ei lythyr presennol, gan deimlo ei fod yn cydio yn hanfod y ddadl a'r ymofyniad, "Pa un ai Duw ai dyn yw yr achubydd," yn myned rhagddo i ddangos, fod priodoli y gwahaniaeth i ddyn yn groes i dystiolaethau pendant yr ysgrythyrau; yn groes i brofiad pob dyn duwiol ar y ddaear; ac yn groes i deimladau a chaniadau y saint mewn gogoniant. Y mae mewn teimlad dwys a thra chrefyddol, yn gwneuthur amryw sylwadau er dangos nad ydyw yr athrawiaeth sydd yn priodoli "clod achub yn gwbl i Dduw," mewn un modd, o'i hiawn ddeall, yn rhoddi "dim o fai colli" arno ef. Y mae Sion y Wesley, yn ei lythyr diweddaf hwn, yn tynu allan ei holl nerth er ymosod ar Carwr Gwirionedd, a thrwyddo ef ar ei wrthwynebwyr ereill. Ond y mae yn amlwg yn osgoi hanfod y ddadl, neu ynte heb wybod yn mha le yr ydoedd; ac, yn ganlynol, y mae yn treulio ei nerth, i raddau mawr, yn ofer ac am ddim.

Yr oedd y ddadl yn awr yn tynu at derfyniad; ac, yn y rhifyn am Mai (tu dal. 145—148), yr ydym yn cael parhad o Lythyr Mr. Davies, a ddechreuasid yn y rhifyn blaenorol, gyda Sylwadau diwedd—glöawl rhagorol ar yr holl Ddadl gan y Golygydd. Yr oedd un rhagoriaeth neillduol ar yr amrywiol ysgrifau yn y ddadl hon, eu bod oll yn yr ysbryd goren; pob ysgrifenydd, dybygid, yn fwy awyddus i gael allan y gwirionedd iddo ei hunan ac i'w ddarllenwyr, ar y testynau dan sylw, nag i gael buddugoliaeth fel y cyfryw; ac heb un o honynt, oddieithr Sion y Wesley weithiau, yn tueddu i arfer geiriau isel, na chwerw, na dirmygus, y naill am y llall. Prin yr oedd yn dêg caniatau i gynnifer ddyfod yn mlaen ar yr ochr Galvinaidd i'r ddadl, pan nad oedd ond un ar yr ochr Arminaidd. Eto, rhaid cofio mai mewn cyhoeddiad Calvinaidd yr oedd yn cael ei dwyn yn mlaen; a bod digon o yni a dyfal—barhad yn Sion y Wesley, gyda digon o gariad at Arminiaeth a digon o gasineb at Galviniaeth, i'w wneyd, nid ydym yn ammeu dim, yn llawen o'r cyfleusdra, a roddid iddo, i geisio, âg un ergyd, at fywydau cynnifer o "Philistiaid dienwaededig." Yn mhen rhai blynyddoedd ar ol hyn, 1831, yr ydym yn ei gael, "yn amlder ei rym," yn ysgrifenu cyfres o Lythyrau, o'r un ysbryd, i'r "Eurgrawn Wesleyaidd," yn erbyn "Ffwleriaeth." Yn ein bryd ni, efe oedd y dadleuydd tecaf a'r galluocaf o lawer, ar yr ochr Arminaidd i'r cwestiwn, a ymddangosodd erioed yn ein gwlad ni.