Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/358

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu mesur o ddistawrwydd, ar ol hyn, ar y ddadl Arminaidd am rai blynyddoedd; ac yr oedd lliaws o'r rhai callaf, yn mhlith y Calviniaid, yn teimlo mai peth ofer hollol oedd ei hestyn yn mhellach, yn gymmaint a bod yr Arminiaid yn parhau i haeru, fod y syniad Calvinaidd am Etholedigaeth yn cynnwys sicrhad am gadwedigaeth rhyw rai o ddynolryw, yn gwbl annibynol ar ffydd a sancteiddrwydd; ac, yn angenrheidiol, yn cynnwys bwriad tragywyddol a digyfnewid i ddamnio y gweddill, pa ymdrech bynnag a wnelid ganddynt, trwy edifeirwch a ffydd a bywyd duwiol, er caffael iachawdwriaeth a bywyd tragywyddol. Teimlid mai y peth goreu ellid wneyd â rhai a barhäent i wneuthur y fath haeriadau, oedd gadael rhwng y camddarluniad a synwyr a chydwybod y wlad. Ond yn mhen rhyw nifer o flynyddoedd, nid ydym yn hollol sier pa bryd,—yr ydym yn tybied mai tua diwedd y flwyddyn 1830,—fe gyhoeddwyd,—" Lladmerydd, yn cynnwys Sylwadau Eglurhäol ar Dabl (os gwir a glywais) gan y diweddar Dr. Gill, yn dangos trefn yr achosion o Iachawdwriaeth a Damnedigaeth, yn ol gair Duw." Mr. Edward Jones, Llantysilio, yr hwn ydoedd y pryd hyny yn aros yn Llanidloes, ac yn golygu yr "Eurgrawn Wesleyaidd " yno, ydoedd awdwr y llyfryn hwn. Methasom, er pob ymchwil, a chael gafael ar gopi cyflawn o hono. Nid ydyw yr un sydd genym ni yn cynnwys ond darnau o ychydig o'i dudalenau. Y mae y daflen yn gyflawn genym. Nid ydyw ond cyfieithiad hollol o daflen a geir yn ngwaith yr hen Perkins, yn rhagflaenu ei Draethawd, "A Golden Chaine: or description of Theologie, containing the Order of the Causes of Salvation and Damnation, according to God's Word" (Works, folio, Vol. I. page 11, London, 1816). Mae Taflen led debyg, ond yn llawer helaethach, gan John Bunyan (Works, Offor's Edition, Vol. III., page 374, Glasgow, 1853), yr hon hefyd a gyhoeddwyd, ond heb gyfieithiad, yn y gyfrol o'i "Ysgrifeniadau Allegawl" ef, a ddygwyd allan yn ddiweddar yn y Gymraeg, dan olygiad y Parch. Owen Jones, Llandudno. Cafwyd y Daflen, medd Mr. Edward Jones, ganddo ef, oddiwrth un o brif Flaenoriaid y Trefnyddion Calfinaidd yn Nghymru: a dywedwyd wrtho, meddai, "ei bod gan eu Blaenoriaid, ac mai yn ei hol hi yr arferent flaenori eu Cymdeithasau." Mae yn cymmeryd arno mai prin yr oedd yn credu hyn, a'i fod yn tybied mai dyfais neillduol yn perthyn—mae y ddalen wedi ei dryllio fel nad ydym yn sicr o'r ystyr—ai i'r gwr y cawsai efe hi oddiwrtho ydoedd,―hyd nes y daeth