Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/359

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Lanidloes, pryd y cafodd allan, medd efe, fod un o bregethwyr y Methodistiaid yn gwneyd copïau o'r Daflen, ac yn eu gwerthu am hanner coron yr un. Mae ein copi o'r llyfr mor anmherffaith, fel mai trwy gryn drafferth y gallasom wneyd allan gymmaint a hyna yn nghylch y Daflen. Mae yn myned rhagddo i adrodd am fab, i ryw flaenor neu bregethwr, ni a dybiem, wedi bod yn copïo rhai am ugain mlynedd i'w dad; a brawd iddo, drachefn, wedi bod yn gwneyd yr un peth am ddeng mlynedd neu fwy, fel, rhwng pob peth, y mae yn casglu fod rhifedi dirfawr o honynt wedi eu taenu yn y wlad. Ac y mae yn rhyfeddu pa fodd yr ydoedd, er y fath ledaeniad, wedi cael ei chadw cyhyd mor ddirgelaidd. Ond y syndod i ni ydyw fod yr hen frawd yn rhoddi coel i'r fath chwedlau.

Wedi taenu hyn mor gyhoeddus trwy y wasg, fe deimlodd pregethwyr y Methodistiaid, a gartrefent yn Llanidloes, y dylasent wneuthur rhywbeth er amddiffyn iddynt eu hunain, yn wyneb yr haeriad a wnaethid gyda golwg ar un o honynt, gan Mr. Edward Jones. Yn ganlynol, ar nos Iau, Mawrth 3, 1831, wedi pregeth yn Nghapel y Wesleyaid, fe gyfarfu y diweddar Mr. Humphrey Gwalchmai, y diweddar Mr. Robert Evans, Mr. Edward Hughes, yn awr o Aberystwyth, a Mr. David Williams, yn awr o Chicago, Illinois, yn yr America, a dau ereill o aelodau y Methodistiaid, gydâ Mr. Edward Jones, ac Arolygwr y Gylchdaith, a blaenoriaid y Gymdeithas Wesleyaidd yn Llanidloes, er cael rhyw eglurhad ar yr hyn a gyhoeddasid. A dyma yr Adroddiad am y cyfarfod hwnw, a roddwyd gan Mr. Edward Jones:—"Ar ol cwrs o ymddyddan brawdol yn nghylch y Lladmerydd, a gweled nad oedd gobaith i mi alw gair yn ol o'r hyn sydd ynddo, addefodd Mr. Williams ddarfod iddo ef ddyfod a Thablen i'r dref hon (o Aberystwyth, yr wyf yn tybied), ac i ereill wneyd rhai oddiwrth hono, a'u gwerthu; ond yr oedd ef yn tystio na wnaeth ac na werthodd ef un ei hunan, ac mai camdystiolaeth a glywswn yn ei gylch. A chan mai efe oedd y Pregethwr y clywais am dano, ac yntau yn tystio ei fod yn ddieuog, a'r brodyr ereill yn cael eu blino yn ei gysgod, ac yntau ei hun yn cael ei aflonyddu am hyny, erfyniodd y brodyr Calfinaidd arnaf hyspysu yn yr Eurgrawn pa fodd y bu, gan ddeisyf i mi ddywedyd na wnaed ac na werthwyd un Dablen gan neb o'r Pregethwyr sydd yn y dref hon. Ac ar ol i Mr. Gwalchmai weddïo, ymadawsom mewn brawdgarwch. Eithr y mae yn ddrwg