Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y teulu. Yr oedd y plentyn yn edrych yn astud ar yr holl oruchwyliaeth o'r dechreu, ac yn ymddangos mewn dwys fyfyrdod, ond heb ddywedyd gair wrth neb. Mynodd weled y cwbl; ei dàl, a'i rhwymo, a'i gwaedu, a'i blingo a'i hagor. Wedi i'r holl oruchwyliaeth fyned drosodd, collwyd ef yn ddisymwth. Yr oedd wedi encilio wrtho ei hun i bregethu ar yr achlysur. Ond yr oedd amryw, yn ddiarwybod iddo ef, yn nghyraedd ei glywed, ac yn gwrandaw arno. Yr oedd, ar y pryd, wedi ei gyffroi yn ddirfawr wrth weled yr anifail yn marw. Nid ydoedd wedi gweled y fath beth erioed o'r blaen, ac nid oedd ond ieuanc iawn, rhwng wyth a naw mlwydd oed. Dechreuodd ddywedyd gyda theimlad bywiog a dwys, mai peth ofnadwy iawn oedd marw. "Y mae marw buwch yn ddychrynllyd. Welsoch chwi fel yr oedd hi yn gwingo? glywsoch chwi fel yr oedd hi yn gruddfan ac yn beichio? Yr oedd hi yn ceisio gwneyd ei goreu i gael byw. Ond nid oedd waeth iddi heb: pan ddaeth ei hamser hi marw oedd raid iddi. Y mae yn rhaid i ddyn hefyd farw. Yr ydwyf fi wedi gweled cynhebrwng rhai pobl. A marw dyn sydd yn beth ofnadwy iawn." Yma sylwai, megis mewn syndod, gan godi ei lais, "Y mae enaid mewn dyn. Dyna sydd yn gwneyd dyn yn fawr. Nid oedd dim enaid gan y fuwch. Mi welais i y tu fewn iddi hi, ac nid oedd yno yr un enaid. Ond y mae enaid gan ddyn, ac nid yw hwnw yn marw pan y bydd y corph yn marw. Y mae yr enaid i barhau byth, byth, byth." Gofynai lawer gwaith ar y bregeth," Pa le y mae yr enaid mewn dyn, tybed? pwy fedr ddyweyd? pwy ŵyr pa le y mae yr enaid? Ni fedraf fi ddim dywedyd; ond yr ydwy' i'n meddwl ei fod o yn rhyw le tua'r gôd fach." Daeth y bregeth hon yn un dra phoblogaidd ganddo yn mhlith y plant wedi iddo gael blas arni ei hunan wrth ei thraddodi y tro cyntaf. Chwarddodd lawer, yn mhen blynyddoedd, yn yr adgôf am y bregeth neu pan y crybwyllai rhyw un wrtho am dani.

Bu llawer o hen grefyddwyr o bryd i bryd, ond yn gwbl ddiarwybod iddo ef, yn gwrandaw arno, yn pregethu pan ydoedd yn blentyn o wyth i ddeuddeng mlwydd oed, ac yn gorfod synu at y pethau rhyfedd a ddywedid ganddo, ac yn methu ymattal weithiau rhag wylo wrth ei glywed. Yr oedd yn ofni yn fawr rhag i'w dad ei glywed. Ond bu yntau amryw weithiau, yn ddiarwybod iddo ef, yn ei wrandaw. Unwaith, wedi gwrandaw arno, dywedodd wrth ei wraig, "Ni wn i ddim pa beth i'w feddwl o'r bachgen yma. Mae arnaf lawer iawn o