Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/361

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrthodedigaeth dragywyddol, hollol ddiammodol, yn rhan o ddysgeidiaeth y Calviniaid; a pherswadiodd ei hunan yn rhwydd i gredu mai y Daflen hon oedd prif destyn efrydiaeth holl flaenoriaid y Trefnyddion Calvinaidd, ac mai yn ei hol hi y byddent yn blaenori eu Cymdeithasau. Er gwneuthur ei hunan yn fwy hyderus, rhoddes y gair "CALFINIAITH" uwchben y daflen. Ac ymddangosai iddo ef, ni a dybiem, y byddai i gyhoeddiad y fath Daflen, gyda'i sylwadau ef arni, fod yn ddigon i ddinystrio dylanwad Calviniaeth am byth yn y wlad. A phe "Calviniaeth" y Daflen hon fuasai Calviniaeth Cymru, buasem ni o'n calon yn dymuno rhwydd hynt iddo. Nid ydym wedi darllen Perkins, er gweled y modd y mae efe yn esbonio yr athrawiaethau, yn eu cysylltiadau, y rhoddir yr amlinellau megis o honynt yn y Daflen. Yr ydym yn gwybod fod rhai Calviniaid, a rhai nodedig o grefyddol ac efengylaidd, yn nyfnder eu hargyhoeddiad o'r hollalluawgrwydd dwyfol, presennoldeb cyson a chyffredinol yr anfeidrol yn y greadigaeth, a dibyniad hollol pawb a phob peth arno, wedi defnyddio ymadroddion sydd yn priodoli gweithrediad i'r Duw mawr annghydweddol, yn ein bryd ni, â phurdeb dihalog ei natur a'i lywodraeth; gan osod pechod dyn yn angenrheidrwydd arno, yn ol arfaeth ddigyfnewid, fel rhan o'r cynllun tragywyddol, er gogoneddu gras. Yr ydym yn gwybod fod rhai Calviniaid wedi bod yn dysgu fel hyn; megis ag yr ydym yn gwybod fod rhai Arminiaid, er ceisio osgoi yr un anhawsderau ag sydd yn cyfarfod eu Cyfundraeth hwy yn rhagwybodaeth Duw, ag sydd yn cyfarfod y Calviniaid yn arfaeth Duw, wedi troi i wadu Hollwybodaeth yr Anfeidrol, gan ddadleu nad yw yn cynnwys dim mwy na gallu i wybod yr hyn a ewyllysio ei wybod. Yr hyn sydd yn ymddangos i ni yn ddieithr, pe byddai rhywbeth hefyd yn ddieithr ynddo ef, yw, fod Mr. Edward Jones yn haeru mai dyma athrawiaeth Mr. Charles o'r Bala, Mr. Jones, Dinbych, Cyffes Ffydd y Trefnyddion Calvinaidd, a Chalviniaid Cymru yn gyffredin y dyddiau hyny. Yn ol y llyfr hwn, yr oeddent oll yn dysgu fod Duw yn achos pob drwg yn gystal a phob da, ac nad oes bosibl i neb gyfeiliorni mewn dim, na gwneuthur dim, ond a fyddo yn ol ei ewyllys ef; am nad yw pob peth, drwg a da yn yr un modd, ond cynnyrch ei ragordeiniad ef. Fel y canlyn y mae yn rhigymu ar gân, ei syniadau am Galviniaeth: