Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/362

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyma brif athrawiaeth Cymru, yn yr oes hon!
Miloedd hefyd sy'n ei chredu, yn yr oes hon!
Na wneir dim gan neb yn un man
Ond arfaethodd Duw ei hunan,
Er yn anwir ac yn aflan, yn yr oes hon!
Lladd, a dwyn, a godinebu,
Rhaid eu bod, mai ef sy'n mynu;
Hon yw'r drefn, medd rhai yn Nghymru, yn yr oes hon!!!" (tu dal. 9.)

Yr oedd Mr. Edward Jones yn sicr, trwy y llyfryn hwn, wedi taflu ei hunan yn gwbl allan o gylch pob sylw ac atebiad cyfeillgar a brawdol, gan ei ddangos ei hunan yn hytrach yn debycach i athrodwr tafodddrwg nag i ddadleuwr têg a gonest, fel nad ydym yn gwybod fod neb, o blith yr un o'r pleidiau Calvinaidd, wedi dyfod allan felly yn ei erbyn. Ond fe'i hatobwyd hyd adref, "yn ol ei ynfydrwydd" ei hun, mewn cerdd o ogan a gwawd:—"Gwialen i Gefn yr Ynfyd: sef, Cân i'r Enllibiwr, a feiddiodd waradwyddo yr Athrawiaeth Galfinaidd, yr hon sydd yn ol Duwioldeb. Gan Edward Jones, Maes y Plwm. Argraffwyd dros yr Awdwr gan E. a J. Lloyd, Wyddgrug. 1831." Mae y cyfansoddiad hwn yn cynnwys pump a thriugain o bennillion, ar y mesur saith a chwech, ac asbri yr hen brydydd yn treiddio trwyddynt oll. Mae y Gan yn wir ddoniol. Nid oes odid ddim yn ein hiaith, o'i nodwedd, i'w chystadlu â hi. Yr oedd ysbryd yr awdwr, y mae yn amlwg, wedi ei gynhyrfu drwyddo, a'r awen wedi cael ei rhyddid ar gyfoeth yr hen iaith, i'w gyflenwi â'r defnyddiau llymaf a gwytnaf, i'w cylymu yn ffrewyllau didrugaredd ac annioddefol "ar gefn yr ynfyd." Ac er nas gallwn lai na gofidio wrth weled dadleuaeth grefyddol yn ymddirywio i'r fath ddifriaeth, eto y mae yn amheus genym a fuasai yr un driniaeth arall mor effeithiol ar Mr. Edward Jones. Yr oedd, er ys blynyddoedd lawer, wedi profi mai ofer oedd ceisio ymresymu âg ef: a chan na pheidiai â "hau y gwynt," nid oedd ganddo ef na'i gyfeillion lawer o le i gwyno ei fod yn gorfod "medi y corwynt."

Y mae yn ymddangos i ni fod y ddadl Arminaidd yn Nghymru, can belled ag y mae a wnelom ni â hi yn awr, wedi dyfod i'w therfyn gydâ chyhoeddiad y Gan hon. Bu ambell ffrwgwd ar ol hyn; cyhoeddwyd amryw lyfrau, ar y naill du a'r llall, ar rai o'r pynciau mewn dadl; yr oedd rhai o'r llyfrau hyny yn llawn o ysbryd dadleugar, ac wedi eu bwriadu, fe ddichon, i gynnyrchu dadl; ond, ryw fodd, yr oedd y tuedd at y ddadl hon wedi darfod yn y wlad. Yr oedd hyny yn codi nid oblegyd fod y pleidiau wedi nesau dim at eu gilydd, nac yn llai hyderus yn eu meddyliau eu hunain o wirionedd yr hyn y dadleuent drosto,