Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/363

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond, yn hytrach, oblegyd gweled nad oedd yr holl ddadleu wedi effeithio dim er eu nesau at eu gilydd, yn gystal ag oblegyd rhyw argyhoeddiad fod y gwahaniaeth rhyngddynt mor fawr, ac o'r fath natur, fel nad oedd gobaith am eu nesau felly byth, ac yn ganlynol, mai ofer oedd cadw y ddadl rhagddi. Ond, wedi rhoddi heibio ymladd, a dechreu cyfeillachu ychydig â'u gilydd megis brodyr Cristionogol, daeth y naill blaid a'r llall i deimlo am eu gilydd eu bod yn well nag yr oeddent hwy wedi arfer synio am eu Cyfundraeth; ac, yn raddol, i gydnabod fod digon o wirionedd yr efengyl, megis darpariaeth gras ar gyfer pechadur colledig, yn y wedd y cyflwynid y naill athrawiaeth a'r llall yn ymarferol ger bron y byd, fel ag i beri iddynt o'r galon ac yn ddiragrith lawenhau yn llwyddiant eu gilydd. Daeth y Calviniaid i edrych ar eu brodyr Arminaidd, yn eu heiddigedd dros y gwirionedd am yr angenrheidrwydd anhebgorol am waith yr Ysbryd Glan er ail—eni a dychwelyd pechaduriaid, ac yn eu gweddïau taerion am dano, yn ymarferol yn addef etholedigaeth dragywyddol a gras penarglwyddiaethol; a'r Arminiaid, hwythau, i edrych ar eu brodyr Calvinaidd, wrth gymhell pawb i dderbyn y Gwaredwr, gan sicrhau i'w gwrandawwyr, os ei wrthod a wnant, y bydd bai eu colledigaeth yn unig ac yn gwbl arnynt eu hunain, yn ymarferol yn cydnabod iachawdwriaeth gyffredinol. Mae yr Armin, meddai y Calviniad, yn hollol annghyson â hanfod ei Gyfundraeth; mae y Calvin, meddai yr Arminiad, yn hollol groes iddo ei hun; ond y mae y byd, meddai y ddau, yn cael y fantais ar yr annghysondeb. Ac, erbyn hyn, ac er's blynyddoedd bellach, tra y mae yr argyhoeddiad yn parhau, ac yn dyfnhau, fod gwahaniaeth hanfodol rhwng y ddwy Gyfundraeth, a'r naill blaid fel y llall yn barod i hòni, ac yn credu yn ddiysgog, fod y fantais yn y gwahaniaeth hwnw yn eiddo iddi ei hunan, y mae y rhai mwyaf meddylgar, o'r ddau tu, yn fwy parod nag erioed i gydnabod fod anhawsderau neillduol a dirfawr yn perthyn i'r naill yn gystal a'r llall,—y fath anhawsderau ag nas gall y meddwl addolgar yn eu gwyneb ond gwaeddi, "Oh ddyfnder!" ac felly yn teimlo mai annheg, yn gystal ag annoeth, ydyw dwyn yn mlaen yr anhawsderau hyny yn ddadl yn erbyn yr un o honynt, yn annibynol ar neu ar wahan oddiwrth dystiolaethau pendant y dadguddiad dwyfol.