Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/364

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD XI.

DADLEUON DUWINYDDOL CYMRU. 1707—1841.

RHAN II.

Dadleuon rhwng Calviniaid a'u gilydd: 1811—1841.

Gradd o amrywiaeth trwy yr oesoedd yn mhlith rhai o olygiadau Calvinaidd, yn enwedig ar Brynedigaeth—y pwnc heb godi yn destyn sylw neillduol yn y canrifoedd yntaf–Augustine a Prosper yn dechreu ei ddwyn i ffurf fwy cyfundraethol–Gottschalck yn dysgu Prynedigaeth neillduol yn yr ystyr fanylaf—ei olygiadau yn cyffroi dadleuon brwdfrydig—yn cael eu condemnio mewn Cymmanfäoedd yn Mentz ac yn Quiersy―yntau yn cael ei erlid a'i garcharu—Remigius, Esgob Lyons, ac ereill, yn amddiffyn ei olygiadau–tair Cymmanfa yn Ffrainc yn penderfynu yn eu plaid–y dadleuon yn darfod, a'r pwnc hwn yn cael ei adael yn llonydd–y golygiad cyffredin arno yn y Canol-oesau–syniad y Diwygwyr Protestanaidd arno–Beza a Perkins yn dadleu dros Neillduolrwydd y Prynedigaeth–y dadleuon a achlysurwyd gan Arminius yn peri cynnydd mawr ar bleidwyr golygiad Perkins–Cymmanfa Dort a'i hathrawiaeth ar hyn–golygiadau Cynnrychiolwyr Lloegr yno–Cymmanfa Westminster—dadleuon rhwng yr Annghydffurfwyr, a achlysurwyd gan gyhoeddiad pregethau Dr. Crisp–tawelwch yn cael ei adfer–syniadau Dr. Edward Williams–dadleuon yn mhlith y Bedyddwyr yn Lloegr–dadleuon yn Scotland–yn yr America, yn mhlith yr Annibynwyr, ac yn yr Eglwys Henaduriaethol–yr Eglwys hono yn cael ei rhwygo ganddynt yr un pynciau yn codi i sylw yn Nghymru–dyfodiad y Wesleyaid i'r wlad yn effeithio yn wahanol ar wahanol feddyliau yn mhlith y Calviniaid—Mr. Christmas Evans yn cymmeryd un cyfeiriad, yn ei lyfr ar "Neillduolrwydd y Prynedigaeth"–Mr. John Roberts yn cymmeryd cyfeiriad arall, yn y "Cynnygiad Gostyngedig"—Mr. Thomas Jones, yn ei "Ymddyddanion ar Brynedigaeth," yn annghytuno a'r ddau–Mr. Christmas Evans yn ateb Mr. Thomas Jones–Mr. Jones yn ei ateb yntau, mewn "Llythyr at y Bedyddwyr"–dau Lythyr oddiwrth rai o'r Bedyddwyr ato yntau–Mr. John Roberts -