Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/365

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ateb Mr. Jones, yn ei Lyfr, "Galwad Ddifrifol"–Mr. Jones yn marwy ddadl yn cael ei pharhau—"Amddiffyniad o'r Ymneillduwyr" gan Mr. Cadwaladr Jones–pregeth ar Iawn Crist gan J. P. Davies, Tredegar–dadleuon yn Seren Gomer rhwng Mr. John Phillip Davies a Mr. John Jenkins, Hengoed, ac ereill "Golwg Ysgrythyrol ar Iawn Crist," gan Francis Hiley–y Cymro Gwyllt ac ereill yn Ngoleuad Cymru—Mr. John Roberts yn ateb yn y Dysgedydd Mr. Richard Jones o'r Wern yn cyhoeddi "Drych y Dadleuwr Llythyrau arno yn y Dysgedydd—" Athrawiaeth yr Iawn," gan Mr. Samuel Bowen—pregeth Dr. Lewis ar Brynedigaeth—" Y Cawg Aur," gan Mr. Daniel Evans—ysgrif yn y Drysorfa, "Crist yn ddioddef cospedigaeth ei bobl," gan Mr. Henry Rees–dadl eto yn y Dysgedydd rhwng Mr. Christmas Evans ac Edeyrn–"Sefyllfa Prawf," gan Mr. D. Davies, Pant-teg–dadleuon yn y Dysgedydd ar Ddylanwadau yr Ysbryd "Y Pregethwr a'r Gwrandawr"–yr atebion iddo yn y Dysgedydd–y dadleuon yn awr yn terfynu—argyhoeddiad yn cynnyddu yn y naill blaid a'r llall nad oedd y gwahaniaeth rhyngddynt yn cyffwrdd a hanfod yr Efengyl–y Weinidogaeth yn cymmeryd gwedd fwy Biblaidd a llai Cyfundraethol–dadleuon ein Tadau erbyn hyn braidd yn anhygoel i ni.

Y MAE pawb sydd i ryw fesur yn gyfarwydd â Hanes Duwinyddiaeth yn gwybod fod cryn raddau o wahaniaeth, yn mhlith y rhai sydd ar y cyfan yn cytuno yn y syniadau a adnabyddir er ys oesoedd bellach wrth yr enw Calviniaeth, gyda golwg ar rai o'r athrawiaethau priodol i'r Gyfundraeth hono. Y mae y gwahaniaeth hwnw yn arbenig yn ymddangos yn eu syniadau am Iawn Crist,—ei natur, yr angenrheidrwydd am dano, ac yn enwedig ei helaethrwydd. Yn oesoedd boreuaf yr eglwys nid oedd y cwestiynau yn nghylch hyn wedi tynu nemawr sylw, ac yr oedd dysgeidiaeth yr hen dadau, ar rai o honynt, yn hynod o anmherffaith, ac, yn wir, yn dra chyfeiliornus. Ond nid oes, ni a dybygem, un lle teg i ammeu nad oeddent yn edrych ar farwolaeth Crist fel darpariaeth gwbl gyffredinol ar gyfer dynolryw, yn eu heuogrwydd a'u trueni. Nid yw yr ychydig ddyfyniadau a wneir gan y Dr. Owen, yn niwedd ei draethawd,—"The Death of Death in the Death of Christ" (Works, Vol. X., pages 422, 423, Goold's edition, 1852), yn profi dim i'r gwrthwyneb. Byddai yn hawdd casglu allan o ysgrifeniadau ereill o'r tadau, ïe rhai o'r rhai a nodir yno, ymadroddion yn dwyn llawn cymaint, a dywedyd y lleiaf, o ddelw cyffredinolrwydd, ag sydd o neillduolrwydd yn y rhai a ddyfynir ganddo ef. Ond y mae yn amlwg nad oedd y pwnc erioed wedi bod yn destyn sylw ac ymchwiliad arbenig ganddynt, nac un ddadl wedi bod erioed arno. Ond wedi i syniadau Pelagius, a elwir genym ni Morgan, gynhyrfu y fath ddadleuon yn nghylch effeithiolrwydd gras Duw yn iachawdwriaeth pechaduriaid, ac i gorph yr eglwys, o leiaf yn y gorllewin, gael ei harwain i dderbyn athrawiaeth Augustine ar lygredigaeth natur dyn dan y cwymp, a'i anallu hollol i'w waredu ei hunan, ac, felly, i roddi arbenigrwydd neillduol ar y