Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/366

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwirionedd ysgrythyrol am gadwedigaeth yn unig o ras rhydd a phenarglwyddiaethol y Jehovah mawr, yn ol ei arfaeth a'i etholedigaeth ei hunan, heb un rhyglyddiant yn y dyn ei hunan mewn un ystyr, ac heb un rhagolygiad ar unrhyw ragoriaeth ynddo,—wedi hyn, y mae yn ym. ddangos fod gwahaniaeth pendant wedi dechreu cael ei wneuthur, gan Augustine ei hunan, ac yn enwedig gan rai o'i ddysgyblion a'i ganlynwyr uniongyrchol, rhwng perthynas marwolaeth Crist â'r rhai a gedwir yn y diwedd trwyddo, a'i pherthynas âg ereill, y rhai ni chedwir felly. Y mae y dyfyniadau a wneir gan y Dr. Owen, yn y llyfr y cyfeiriasom ato uchod, o ysgrifeniadau Augustine, yn profi hyny yn bendant gyda golwg arno ef, yn neillduol y dyfyniad o un o'i Ddarlithiau ar Efengyl Ioan (v. 17—19):—"Mae felly yn dywedyd hyn am yr eglwys gyffredinol, yr hon ei hunan a elwir yn fynych ganddo wrth yr enw byd: megis yn yr ymadrodd hwnw, 'Bod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun.' Ac felly yn hwnw,—Ni ddanfonodd Duw ei Fab i'r byd i ddamnio y byd, eithr fel yr achubid y byd trwyddo ef.' Ac y mae Ioan yn ei epistol yn dywedyd, Y mae i ni Eiriolwr gyda'r Tad, Iesu Grist y cyfiawn; ac efe yw yr iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.' Yr holl fyd,' gan hyny, yw yr eglwys; ac y mae y byd yn casau yr eglwys. Y mae byd felly yn casau byd; y byd sydd mewn gelyniaeth yn casau y byd sydd wedi ei gymmodi; y byd sydd dan gondemniad yn casau y byd sydd wedi ei achub; y byd halogedig yn casau y byd sydd wedi ei lanhau. Ond y mae y byd hwnw y mae Duw yn Nghrist yn gymmodi âg ef ei hun, a'r hwn a achubir trwy Grist, ac i'r hwn trwy Grist y maddeuir pob pechod, yn fyd sydd wedi ei ddewis allan o'r byd sydd mewn gelyniaeth, o dan gondemniad, ac yn halogedig (In Joannis Evangelium Tractatus lxxxvii. Opera Omnia, Tom. III. pars 2, col. 2307, 2308. Editio Gaume, Paris, 1837). Gallesid cyfeirio at amrywiol fanau ereill yn ei ysgrifeniadau yn y rhai y mae yr un golygiad yn cael ei ddysgu.

Ond yn nwylaw Prosper o Aquitania, talaeth yn Ffrainc, ysgrifenydd galluog yn nechreu y bummed ganrif, dysgybl i a chydoeswr mewn rhan âg Augustine, er nad oeddent adnabyddus i'w gilydd wyneb yn wyneb, y mae y gwirionedd ar hyn yn dechreu ymffurfio i'r wedd fwy cyfundraethol arno a geir yn amlycach mewn oesoedd diweddarach. Nid ydyw yr argraffiad cyflawn o weithiau Prosper ei hunan yn ein meddiant; ond y mae ei holl ysgrifeniadau ar y dadleuon yn erbyn y