Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/368

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

holl fyd, yn gymmaint a'i fod mewn gwirionedd wedi cymmeryd arno ei hunan y natur ddynol, fel y cyfryw, ac yn gymmaint a bod pawb o'r natur hono yn gyd-golledig yn y dyn cyntaf: eto, fe ellir dywedyd mai drostynt hwy yn unig y croeshoeliwyd ef ag y byddo ei farwolaeth yn fuddiol iddynt. Canys fe ddywed yr Efengylwr, 'Y byddai'r Iesu farw dros y genedl, ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghŷd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid' (Ioan xi. 51, 52). Canys At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. Ond cynnifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw: y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw' (Ioan i. 11—13). Gwahanol, gan hyny, i'r rhai hyn ydyw rhan y rhai hyny a gyfrifir yn mhlith y rhai y dywedir am danynt, ' A'r byd nid adnabu ef' (Ioan i. 10). Fel ag y dichon mai yn ol hyn y dywedir ei fod yn Brynwr y byd: rhoddes ei waed ei hun dros y byd, ac ni fynai y byd gymmeryd ei brynu; canys ni dderbyniodd y tywyllwch y goleuni: ac eto fe dderbyniodd y tywyllwch hwnw y goleuni, y dywedodd yr Apostol wrthynt, Yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awrhon goleuni ydych yn yr Arglwydd' (Eph. v. 8). Ie, y mae yr Arglwydd Iesu ei hunan, yr hwn a ddywed iddo ddyfod i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid' (Lue xix. 10), yn dywedyd hefyd, 'Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel' (Matt. xv. 24). Ond y mae yr Apostol yn esbonio i ni pwy sydd i'w golygu wrth y defaid tŷ Israel hyny, pan y dywed, Nid Israel yw pawb a'r sydd o Israel. Ac nid ydynt oblegyd eu bod yn hâd Abraham, i gyd yn blant: eithr, yn Isaac y gelwir i ti hâd. Hyny ydyw, Nid plant y cnawd y rhai hyny sy blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd' (Rhuf. ix. 6—8). Y maent, gan hyny, yu en mysg hwynt, am y rhai y dywedwyd yr hyn a goffawyd genym uchod, Y byddai'r Iesu farw dros y genedl; ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.' Canys nid o blith yr Iuddewon yn unig, eithr hefyd o blith y cenedloedd, trwy yr hwn sydd yn galw y pethau nid ydynt megis pe byddent, a'r hwn a gasgl wasgaredigion Israel, y mae plant Duw, plant yr addewid, yn cael eu casglu yn un eglwys:' fel y bydd i'r hyn a addawwyd i Abraham gael ei gyflawni, wrth yr hwn y dywedwyd mai yn ei hâd ef y bendithid holl lwythau y ddaear."

Ac. ychydig yn mlaen, pan yn tynu y casgliad oddiwrth ei amryw-