Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/369

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol sylwadau, efe a ddywed,—"Yr un modd, y mae yr hwn sydd yn dywedyd na chroeshoeliwyd yr Iachawdwr er prynedigaeth yr holl fyd, yn edrych nid ar rinwedd y sacrament ond ar ran yr anghredinwyr: canys, tra y mae gwaed ein Harglwydd Iesu Grist a gwerth digonol ynddo dros yr holl fyd, y maent hwy oddiallan i'r gwerth hwnw sydd naill ai oddiar hoffder o'u caethiwed yn gwrthod eu prynedigaeth, neu ynte wedi eu prynu yn dychwelyd eilwaith i'r un caethiwed. Ond nid yw gair yr Arglwydd yn myned yn ddirym, na phrynedigaeth y byd yn myned yn ofer. Oblegyd er nad ydyw byd llestri digofaint yn adnabod Duw, eto y mae byd llestri trugaredd yn ei adnabod y rhai, heb ddim haeddiannau daionus o'r eiddynt eu hunain yn rhagflaenu, a waredwyd gan Dduw o feddiant y tywyllwch, ac a symmudwyd i deyrnas ei anwyl Fab" (Apud Augustini Opera, Tom. X. pars 2, Col. 2525—2531).

Mae y llyfr arall yn cynnwys Sylwadau ar ac Atebion i unarbymtheg o Wrthddadleuon y Vincentiaid, yn erbyn athrawiaeth Augustine. Y gyntaf o'r rhai hyny a nodir ganddo yw, ei fod yn dysgu,—"Nad yw ein Harglwydd Iesu Grist wedi dioddef er iachawdwriaeth a phrynedigaeth pob dyn." Yn Atebiad i'r wrthddadl hon, y mae Prosper, yn y llyfr hwn, yn sylwi fel y canlyn:—"Er cyfarfod clwyf y pechod gwreiddiol, trwy yr hwn yn Adda y mae natur pob dyn wedi ei llygru a'i dinystrio, ac oddiwrth yr hwn y mae y tueddfryd at bob trachwant yn tyfu, yr unig feddyginiaeth wirioneddol ac effeithiol ydyw marwolaeth Mab Duw, ein Harglwydd Iesu Grist; yr hwn, ac efe yn rhydd oddiwrth y rhwymedigaeth i farw, ac yn unig heb bechod, a fu farw dros bechaduriaid, a rhai o'u rhan eu hunain dan rwymau i farw. Can belled, gan hyny, ag y perthyna i fawredd a rhinwedd y taliad, ac i'r un achos sydd gyffredin i ddynolryw, y mae gwaed Crist yn brynedigaeth i'r holl fyd. Ond am y rhai a elont trwy y byd hwn heb ffydd Crist, ac heb Sacrament yr adenedigaeth, y maent yn estroniaid i Brynedigaeth. Tra, gan hyny, oblegyd mai yr un natur sydd yn eiddo i bawb, a bod yr achos yr ymgymmerwyd ag ef gan ein Harglwydd mewn gwirionedd yn perthyn yr un fath i bawb, y gellir dywedyd yn briodol fod pawb wedi eu prynu, eto, yn gymmaint ag nad ydyw pawb yn cael eu gwaredu o'n caethiwed, y mae neillduolrwydd y prynedigaeth, yn ddiddadl, yn eiddo yn unig iddynt hwy y bwrir allan dywysog y byd hwn o honynt, ac sydd yn awr nid yn llestri i'r diafol ond yn