Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ofn iddo wneyd yn rhy hyf ar enw y Brenhin Mawr. Ond y mae yn dywedyd rhai pethau rhyfedd annghyffredin. Pwy a ŵyr nad oes gan yr Arglwydd ryw beth i'w wneuthur trwyddo." Nid oedd arno un arswyd i'w fam ei glywed, ond pregethai yn hollol rydd yn ei phresennoldeb hi. Byddai yn pregethu llawer iawn yn y gwely, yn hwyr y nos, cyn cysgu, ac weithiau mor uchel ac mor faith nes y byddai y fam yn gorfod gorchymyn iddo dewi. Un noswaith, pan oedd yn pregethu felly yn y gwely, gwelai ben ei dad, yr hwn oedd wedi dyfod i'r tŷ, ac yn sefyll ar risiau y llofft i wrandaw arno. Dychrynodd y pregethwr bychan trwyddo, a distawodd yn y fan. Ar hyny aeth ei dad i fynu ato, a dywedodd yn dyner wrtho, "Wel, fy machgen bach i, nid wyf fi yn erbyn i ti sôn am bethau y Bibl, a phregethu dy oreu, ond i ti beidio ag enwi y Brenhin mawr, peidio a gwneyd yn rhy hŷf ar y gair "Duw," a'r gair "Arglwydd." Mae perygl cymmeryd ei enw ef yn ofer, gan ei fod mor ogoneddus, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, a phob peth o ddim, ac y dylai pawb ei barchu a'i addoli. Ni ddylid ei enwi ef ond gyda gwylder a pharchedig ofn. Mae y Bibl yn dywedyd nad dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer: ac y mae yn bosibl gwneyd hyny wrth bregethu neu wrth weddio yn gystal ag wrth dyngu a rhegi." Effeithiodd hyn yn ddirfawr ar ei feddwl. Yr ydym yn cofio ei glywed yn dywedyd iddo y pryd hwnw, ar unwaith, gael syniad hollol newydd iddo ef ar ystyr y trydydd gorchymyn, a'i harweiniodd, yn raddol, i syniad newydd am yr holl orchymynion ereill.

Yr oedd un peth yn nodedig ynddo y pryd hyny wrth geisio pregethu, ag y sylwid arno yn gyffredin gan y rhai oeddent yn ei wrandaw, ac sydd yn fywiog yn nghôf llawer o honynt hyd y dydd hwn, fel peth hynod iawn mewn plentyn mor ieuanc, sef y difrifoldeb a ymddangosai ynddo gyda'r gwaith. Yr ydoedd bob amser yn sobr a digellwair. Nis gallai troion mwyaf digrifol y plant a fyddent yn gwrandaw arno, effeithio er peri cymaint âg un wên ar ei wefusau ef. Daliai trwy eu chwareuon, ac weithiau trwy eu hymladdau, heb arddangos un gogwyddiad at yr ysgafnder lleiaf, a chai pwy bynag o honynt a dueddai at hyny gerydd cyhoeddus ganddo. Cyfarfu ág amryw brofedigaethau o'r fath yma, o bryd i bryd, pan yn pregethu iddynt. Dygwyddodd amgylchiad unwaith, yn neillduol, a roddes brawf amlwg ac anhygoel braidd, mewn plentyn o'i oedran ef, o'r difrifoldeb a'i llywodraethai.